Mae coeden brin, sydd wedi rhoi ysbrydoliaeth i enwi llawer o dafarndai yn y DU, yn hau dyfodol newydd iddi’i hun yn Sir Ddinbych.

Mae Coed Cerddin Gwyllt yn ffynnu yr haf hwn ym Mhlanhigfa y Cyngor yn Llanelwy.

Nod y blanhigfa goed yn Green Gates Farm, Llanelwy yw cynhyrchu 5,000 o blanhigion blodau gwylltion cynhenid y flwyddyn, ynghyd â 5,000 o goed cynhenid.

Bydd coed a phlanhigion a dyfir yn y blanhigfa yn y pen draw yn mynd yn ôl i gefn gwlad i hybu bioamrywiaeth.

Dim ond mewn ychydig o leoliadau anghysbell ar draws Sir Ddinbych y mae’r gerddinen i’w gweld. Yn hanesyddol fe'i gelwir hefyd yn goeden ‘chequers’ yn Saesneg oherwydd y ffrwythau y dywedir eu bod yn blasu'n debyg i ddatys ac a roddwyd i blant yn y gorffennol fel fferins.

Yn draddodiadol, gwnaed cwrw brag alcoholig o ffrwythau’r goeden hefyd a chredir mai dyma sydd wedi arwain at enwi nifer o dafarndai yn ‘Chequers’.

Wedi egino nifer o goed Cerddin a gasglwyd yr hydref diwethaf, mae’r blanhigfa leol wedi tyfu nifer o goed iach i gefnogi’r darn hanesyddol hwn o natur.

Mae’r blanhigfa goed a ariennir gan Lywodraeth Cymru trwy brosiect Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Partneriaethau Natur Lleol Cymru a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, bellach yn gartref i 240 o goed Cerddin iach sy’n tyfu.

Meddai Liam Blazey, Uwch-swyddog Bioamrywiaeth: “Rydym yn falch iawn bod y cyfleusterau yma yn y blanhigfa goed wedi rhoi achubiaeth bwysig yn ein sir i goeden brin â chydnabyddiaeth hanesyddol.

“Ar ôl egino mewn bagiau rhewgell yn llawn compost yn yr oergell, gyda chymorth y staff a’n grŵp gwych o wirfoddolwyr sy’n cefnogi’r blanhigfa, symudwyd yr hadau i botiau gwreiddio, cyn cael eu plannu mewn potiau 3 litr.

“Diolch i’r holl sylw a roddwyd i warchod y Gerddinen, mae gennym 240 o goed yn yr awyr agored ar dir y blanhigfa yn mwynhau’r tywydd cynnes, ac maen nhw’n tyfu’n dda. Pan fyddant wedi tyfu digon, byddwn yn eu symud i rannau o’r sir i helpu i roi hwb i’w niferoedd.”

Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae ein tîm Bioamrywiaeth yn gweithio’n galed i leihau effaith newid hinsawdd ar ein tiroedd, lle mae llawer o rywogaethau’n prinhau’n anffodus.

“Bydd yr ymdrech wych hon nid yn unig yn helpu byd natur i wella ond bydd hefyd yn rhoi darn o hanes yn ôl i’n cymunedau yn y dyfodol y gallant fynd allan i’r awyr agored i ymweld ag ef a’i fwynhau er eu lles corfforol a meddyliol eu hunain.”