Mae rhwydwaith gwefru cerbydau trydan cyhoeddus wedi dathlu ei ben-blwydd cyntaf drwy ddarparu miloedd o filltiroedd gwyrdd i fodurwyr i deithio o amgylch Sir Ddinbych.

Ers lansio’n swyddogol yr haf diwethaf, mae rhwydwaith y Cyngor o fannau gwefru cerbydau trydan wedi’u lleoli ar draws holl drefi’r sir wedi darparu 239,146kwh i fodurwyr yn defnyddio’r cyfleusterau.

Mae hynny gyfwerth â 837,000 milltir o deithiau carbon is mwy gwyrdd wedi’u darparu gan y rhwydwaith, sydd yr un pellter â theithio o amgylch cylchedd y byd bron i 34 gwaith.

Yn nes at adref, mae’r milltiroedd gyfwerth ag oddeutu 1,000 o deithiau o Lands End i John O’Groats a 9,300 o deithiau o Gaergybi i Wrecsam.

O ran y rhai hynny sy’n defnyddio milltiroedd mwy gwyrdd i deithio o amgylch Sir Ddinbych, mae’r swm blynyddol yn gyfwerth yn fras â 19,420 o deithiau mewn car o arfordir Prestatyn i olygfeydd yr Afon Dyfrdwy yn Llangollen.

A hithau’n wyliau’r haf, gall y rhwydwaith cerbydau trydan ddarparu cyfle ardderchog i deithio o amgylch Sir Ddinbych i fwynhau’r holl atyniadau sydd gan y sir i’w cynnig wrth wefru eich cerbyd.

Os ydych chi’n bwriadu ymweld â Rheilffordd Llangollen, mae pum peiriant gwefru cerbydau trydan ar gael ger yr orsaf ym maes parcio Lôn Las, Corwen, fel rhan o brosiect ar y safle a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU. Yn Llangollen, mae mannau gwefru ar gael yn Heol y Farchnad a meysydd parcio’r Pafiliwn.

Mae maes parcio Cae Ddôl yn Rhuthun yn cynnig cyfleusterau gwefru cerbydau trydan i’w defnyddio ger y Carchar a’r parc ei hun os ydych yn ymweld â’r dref gyda’r teulu ac mae mannau gwefru hefyd ar gael yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.

Os ydych yn ymweld â’r arfordir yr haf hwn, mae gwefrwyr cyflym ar gael ym maes parcio Gorllewin Stryd Cinmel, Y Rhyl a maes parcio Rhodfa Brenin, Prestatyn.

Mae mannau gwefru eraill y rhwydwaith ym maes parcio Lôn y Post, Dinbych, maes parcio’r lawnt fowlio yn Llanelwy, maes parcio Morley Road yn Y Rhyl a maes parcio Rhodfa Rhedyn, Prestatyn.

Ategwyd y gwaith ar y rhwydwaith wefru ychwanegol ar gyfer rhai safleoedd gan gyllid grant drwy Swyddfa Cerbydau Di-allyriadau Llywodraeth y DU (OZEV)

Mae'r prosiect hwn hefyd wedi'i gynnal i gefnogi pobl i drosglwyddo i gerbyd trydan lle nad oedd ganddynt fynediad i gyfleuster gwefru o'r blaen.

Mae’r rhwydwaith cerbydau trydan cyhoeddus yn rhan o gamau gweithredu cyffredinol y Cyngor i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn dilyn datganiad Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol yn 2019 drwy leihau ôl-troed carbon y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Braf iawn yw gweld y rhwydwaith cerbydau trydan cyhoeddus yn helpu i gefnogi milltiroedd mwy gwyrdd yn ystod y flwyddyn swyddogol gyntaf. Rydym eisiau lleihau allyriadau carbon o amgylch y sir ac mae’r rhwydwaith yn helpu i symud tuag at hyn drwy gefnogi dulliau mwy gwyrdd o deithio.

“Mae’r rhwydwaith gwefru cerbydau trydan cyhoeddus hefyd yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n lleol i’r sir neu sy’n ymweld o bell yr haf hwn oherwydd ei fod yn darparu cefnogaeth ddelfrydol ar gyfer ymweld ag atyniadau a gwefru cerbydau wrth wneud hynny.

“Gall gyrwyr cerbydau trydan gynllunio llwybrau o amgylch y sir yn defnyddio’r rhwydwaith i fwynhau’r hyn sydd gan Sir Ddinbych i’w gynnig, a chefnogi ein busnesau lleol pan fyddant yn stopio mewn mannau gwefru a darganfod beth sydd gan y trefi i’w gynnig tra eu bod yn aros.

“Mae’r cyfleusterau hyn hefyd yn bwysig i helpu’r rhai hynny sydd eisiau newid i gerbydau trydan ond nid oes ganddynt y cyfleuster na man parcio oddi ar y ffordd i wneud hynny.”