llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2021

Disgyblion ysgol yn helpu i roi hwb i safle blodau gwyllt lleol

Mae disgyblion ysgol wedi helpu i roi hwb i safle Blodau Gwyllt lleol a’u helpu i flodeuo’n iach am y tymor nesaf.

Yn dilyn datganiad y Cyngor o argyfwng hinsawdd ac ecolegol yn 2019, mae’r prosiect hwn yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i wella bioamrywiaeth ar draws y sir, mae bron 60 o safleoedd, gan gynnwys ymylon priffyrdd, ymylon llwybrau troed, llwybrau beiciau a glaswelltiroedd amwynder, yn cael eu rheoli i greu dolydd blodau gwyllt.

Mae’r safleoedd hyn, ynghyd â’r 11 o warchodfeydd natur ar ochr y ffordd, yn gyfystyr â 30 o gaeau pêl-droed a reolir fel dolydd blodau gwyllt brodorol.

Yn ogystal â diogelu blodau gwyllt, mae’r dolydd hefyd yn cefnogi lles pryfaid sy’n frodorol i ardal y sir.

Er mwyn rhoi hwb i’r ardaloedd hyn dros y gaeaf a darparu bwyd uniongyrchol i fywyd gwyllt yn y flwyddyn nesaf, mae’r tîm wedi bod yn gweithio gyda Chanolfan Sgiliau Coedwig Bodfari i dyfu blodau gwyllt gan ddefnyddio hadau a gasglwyd yn lleol.

I helpu i blannu’r blodau gwyllt hyn mewn llain ymyl ffordd yn Llanrhaeadr, ymunodd disgyblion Ysgol Bro Cinmeirch â thîm y Cyngor i ychwanegu dros 500 o blanhigion i’r safle. Mae’r blodau gwyllt y mae’r plant wedi’u plannu’n cynnwys Bysedd y Cŵn, Blodyn Neidr a‘r Bengaled, sy’n blanhigion poblogaidd ar gyfer gwenyn a gloÿnnod byw.

Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau'r Cyngor: “Mae ein dolydd blodau gwyllt yn rhan bwysig o ymrwymiad y Cyngor i fioamrywiaeth a chadw ein blodau brodorol a’n poblogaeth o bryfaid ar draws y sir. Mae’n bwysig nodi bod y prosiectau hyn yn cymryd amser wrth i’r blodau sefydlu eu hunain ar y safleoedd. Fodd bynnag, fel y gwelwyd ar draws y sir gyda’r prosiect, mae’r canlyniadau wirioneddol yn cefnogi bioamrywiaeth lleol.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i ddisgyblion Ysgol Bro Cinmeirch am ein helpu i roi hwb i’r safle lleol hwn ac edrychwn ymlaen at weld y planhigion newydd yn blodeuo flwyddyn nesaf. Bydd y blodau hyn yn lledaenu ac yn denu ystod o bryfaid i’r llain ymyl ffordd.”

Mae holl safleoedd blodau gwyllt y Cyngor wedi eu rheoli yn unol â chanllawiau Rheoli Glaswelltir ar Ymyl Ffyrdd Plantlife sy’n golygu bod torri gwair yn y safleoedd hyn wedi’i wahardd rhwng mis Mawrth a mis Awst bob blwyddyn, gan roi digon o amser i’r blodau gwyllt dyfu, blodeuo a hadu.

Yna caiff y safle ei dorri ar ôl mis Awst, a chaiff toriadau eu casglu i leihau ffrwythlondeb y pridd a darparu’r amodau gorau posibl i’r blodau gwyllt.

Mae’r prosiect hefyd wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, drwy brosiect Partneriaethau Natur lleol Cymru ENRaW.

Er mwyn darganfod mwy am y dolydd blodau gwyllt ar draws Sir Ddinbych, ewch i’n gwefan.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...