llais y sir

Llais y Sir: Rhagfyr 2021

Arwyddion twristiaeth i hyrwyddo Dyffryn Clwyd

Bydd gwaith yn cael ei gyflawni’r flwyddyn nesaf i osod arwyddion twristiaeth brown ar yr A55 i hyrwyddo Dyffryn Clwyd.

Bydd yr arwyddion dwyieithog yn cael eu gosod cyn Cyffyrdd 27/27a ar gyfer traffig tua’r gorllewin a chyn Cyffordd 27 ar gyfer traffig tua’r dwyrain ddiwedd Chwefror / dechrau Mawrth 2022. 

Bydd yr arwyddion yn cynnwys Castell Dinbych, Castell Rhuddlan a Chadeirlan Llanelwy dan bennawd ‘Dyffryn Clwyd’.

Bydd arwyddion brown ychwanegol yn cael eu gosod yn Ninbych, Rhuddlan a Llanelwy i arwain traffig i’r atyniadau hynny.

Mae’r arwyddion yn cael eu hariannu ar y cyd rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Dinas Llanelwy, Cyngor Tref Dinbych, Cyngor Tref Rhuddlan, CADW a Chadeirlan Llanelwy.

Meddai’r Cyng. Hugh Evans OBE, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: “Bydd yr arwyddion newydd yn  tynnu sylw at dri atyniad gwych yma yn Sir Ddinbych ac yn annog mwy o ymwelwyr i ddod a chrwydro yn ein sir hyfryd.

“Mae hyn yn rhan o’n gwaith ehangach i annog twristiaeth yn yr ardal a fydd yn cefnogi busnesau Sir Ddinbych a diogelu a chreu swyddi ar gyfer ein preswylwyr.

“Bydd gosod yr arwyddion yn ategu at y gwaith a wnaed gan Dîm Twristiaeth y Cyngor i hyrwyddo’r sir fel cyrchfan drwy gydol y flwyddyn i gyd-fynd â’r ymagwedd gynaliadwy a fydd yn tyfu twristiaeth er budd Sir Ddinbych.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...