Cyngor ar yr Argyfwng Costau Byw
Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych
Mae’r argyfwng costau byw yn cael effaith andwyol ar bob un ohonom. Mae pris bwyd a nwyddau yn uwch, mae costau gwresogi ein cartrefi wedi cynyddu (gyda’r cap ar brisiau ynni yn cynyddu eto yn ddiweddarach eleni), mae tanwydd yn fwy drud, ac nid yw incwm pobl yn ymestyn mor bell ag yr oedd yn arfer gwneud.
Os ydych yn ei chael hi’n anodd dal i fyny gyda’ch biliau, yn ei chael hi’n anodd gyda rheoli dyledion, ddim yn siŵr a yw eich cartref mor effeithlon o ran ynni â phosibl, neu eisiau tawelwch meddwl yn gwybod eich bod yn hawlio popeth sydd gennych hawl iddo, mae Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yma i’ch helpu chi.
Rydym yn gallu cynnig cyngor a chefnogaeth cyfrinachol, diduedd am ddim.
Gyda sesiwn gwneud yn fawr o incwm, byddwn yn helpu i sicrhau eich bod yn hawlio’r hyn sydd piau chi a’ch bod yn derbyn y swm cywir o fudd-dal, byddwn yn helpu i nodi a rheoli unrhyw ddyledion ac ôl-daliadau sydd gennych, gallwn eich atgyfeirio ymlaen i gynlluniau a phrosiectau mwy (boed ar gyfer boeleri newydd neu inswleiddio drwy Nest, neu gymorth gyda pha bynnag grantiau sydd ar gael), a byddwn yn eich helpu gyda chyngor ymarferol a mesurau bach effeithlon o ran ynni.
Os ydych yn aelod o’r gymuned Lluoedd Arfog, mae gennym ymgynghorwyr ynni arbenigol yn barod i helpu. Diolch i’n partneriaeth gyda Woody’s Lodge, gyda chyllid o’r Cynllun Unioni Ynni, mae ein Prosiect Ynni yn gallu cynnig ymweliad â’r cartref - ynghyd â’n cynnig arferol o gyngor, cefnogaeth ac atgyfeiriad - i asesu pa un a yw eich cartref yn effeithlon o ran ynni â phosibl a chynnig mesurau bach i helpu tuag at hynny.
Gyda chostau byw yn cynyddu, mae’n bwysig fod gennych fynediad i’r holl gefnogaeth rydych ei hangen cyn argyfwng, felly cysylltwch heddiw am gyngor annibynnol, diduedd a chyfrinachol am ddim.
Ffoniwch: 08082 787 933
E-bost: advice@dcab.co.uk
Gallwch weld ymgynghorydd yn ein hystafell aros ar-lein (dydd Llun-dydd Gwener, 9.30am - 4.30pm) https://attenduk.vc/area-1
Dyma rai gwefannau defnyddiol am gyngor a chefnogaeth bellach:
Cyngor Sir Ddinbych - www.sirddinbych.gov.uk/cymorth-costau-byw
Money Helper UK - https://www.moneyhelper.org.uk/cy
Mae MoneyHelper yn uno canllawiau arian a phensiynau i’w gwneud yn gynt ac yn haws i ganfod y cyngor iawn, mae MoneyHelper yn dod â’r gefnogaeth a gwasanaethau tri darparwr arweiniad ariannol a gefnogir gan y llywodraeth, y Gwasanaeth Cyngor Ariannol, y Gwasanaeth Cyngor ar Bensiynau a Pension Wise.
Turn2us - https://www.turn2us.org.uk/
Mae Turn2us yn elusen genedlaethol, sy’n mynd i’r afael ag ansicrwydd ariannol. Mae’n cynnig gwasanaethau i gyfrif pa fudd-daliadau sydd gennych hawl iddynt ac mae’n cynnal llinell gymorth i roi cefnogaeth a gwybodaeth i bobl sydd heb fynediad i’r rhyngrwyd neu’n ei chael hi’n anodd mynd ar-lein. Rhif eu llinell gymorth yw 0808 802 2000
StepChange - https://www.stepchange.org/
Mae StepChange yn cynnig cyngor arbenigol, am ddim am ddyledion naill ai ar-lein neu dros y ffôn. Gallwch siarad gyda nhw am eich dyledion, a byddant yn edrych ar eich sefyllfa ariannol a’ch cynghori am yr hyn y gallwch ei wneud nesaf. Eu llinell gymorth cyngor ar ddyledion 0800 138 111
Iechyd Meddwl – Samariaid - https://www.samaritans.org/?nation=wales
Os ydych yn meddwl ei fod yn argyfwng neu os hoffech siarad gyda rhywun ar y ffôn, ffoniwch y Samariaid. Gallwch ffonio llinell gymorth y Samariaid 116 123 dydd Llun i ddydd Sul ar unrhyw adeg, mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinell dir.
Cadw’n gynnes y gaeaf hwn - cyngor ar fudd-daliadau gwresogi
Oeddech chi'n gwybod bod nifer o daliadau, cyngor a chefnogaeth ar gael ichi dros fisoedd y gaeaf? Dyma ychydig o bethau i’w hystyried:
Taliad Tanwydd y Gaeaf:
Os cawsoch eich geni ar neu cyn 25 Medi 1956, fe allech chi gael rhwng £250 - £600 i'ch helpu i dalu'ch biliau gwresogi. Fel rheol, byddech chi'n cael Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydych chi'n gymwys a'ch bod chi'n cael Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-dal nawdd cymdeithasol arall (nid Budd-dal Tai, Gostyngiad Treth Gyngor, Budd-dal Plant na Chredyd Cynhwysol). I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 0800 731 0160 neu ewch i https://www.gov.uk/taliad-tanwydd-gaeaf
Taliad Tywydd Oer:
Gallech chi gael taliad o £25 am bob cyfnod o 7 diwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth. Rhaid i gofnod y tymheredd cyfartalog neu'r rhagolygon ar gyfer eich ardal fod yn sero gradd neu lai am 7 diwrnod yn olynol. Os ydych chi’n cael un o’r budd-daliadau isod, yna dylai’r taliad hwn ddod i chi yn awtomatig.
- Credyd Pensiwn
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Cynhwysol
- Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais
I gael rhagor o wybodaeth, ymwelwch â https://www.gov.uk/taliad-tywydd-oer)
Cynllun Tanwydd Consesiynol Cenedlaethol:
Gallech chi gael tanwydd solet neu lwfans arian parod am ddim os ydych chi'n gyn-weithiwr i'r Bwrdd Glo Cenedlaethol (NCB) neu Gorfforaeth Glo Prydain (BCC). Mae angen i chi fod yn gymwys i gael y lwfans tanwydd trwy'r Cynllun Tanwydd Consesiwn Cenedlaethol (NCFS), a dim ond os ydych chi eisoes yn cael tanwydd trwy'r cynllun y gallwch chi gael y lwfans arian parod. I weld a ydych chi’n gymwys, cysylltwch â’r Cynllun ar 0345 759 0529.
I gael mwy o wybodaeth am unrhyw un o'r budd-daliadau gwresogi hyn, ewch i https://www.gov.uk/national-concessionary-fuel-scheme neu siaradwch â'ch swyddog tai ar 01824 706000.
I gael mwy o wybodaeth am gynlluniau cefnogi sydd ar gael ar hyn o bryd, ewch i https://www.denbighshire.gov.uk/cy/budd-daliadau-grantiau-a-chyngor-arian/budd-daliadau-grantiau-a-chyngor-ar-arian.aspx )