Y wybodaeth ddiweddaraf ar y Rhaglen Ôl-osod
Cam 2 - Rhodfa Rhydwen, Y Rhyl
Mae gwaith wedi dechrau ar raglen gwella ynni a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru i weddill ein heiddo ar Rodfa Rhydwen, Y Rhyl.
Mae’r gwelliannau yn cynnwys:
- Gosod paneli solar - bydd y rhain yn cynhyrchu trydan ac yn ei storio mewn batris cysylltiedig er mwyn galluogi defnydd ynni yn ystod y nosweithiau.
- Gwaith inswleiddio waliau allanol gwell - bydd hyn yn helpu i leihau drafft a’r ynni sydd ei angen i gynhesu bob cartref, yn arbennig yn ystod y gaeaf.
Meddai’r Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’n wych gweld dechrau ail gam y gwaith gwelliannau ynni yn Rhodfa Rhydwen.
“Ar ôl cwblhau’r gwaith bydd y cartrefi hyn â gwell effeithlonrwydd ynni yn ystod cyfnod o gostau tanwydd cynyddol, a bydd hefyd yn cefnogi gwaith y Cyngor i leihau ein hôl-troed carbon ar draws y sir.”
Canol y Dre, Rhuthun:
Mae ein hail raglen, fydd yn dechrau’r hydref hwn, ar 17 eiddo yng Nghanol y Dre, Rhuthun.
Bydd y prosiect hwn yn gwella:
- Ymddangosiad, toeau a rendro. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu i leihau drafft a’r ynni sydd ei angen i wresogi cartrefi, yn arbennig yn ystod y gaeaf.
- Gwella mesurau ynni, gan gynnwys paneli solar, batris ac inswleiddio waliau allanol cartrefi pedwar o denantiaid. Bydd y paneli solar yn cynhyrchu trydan ac yn ei storio yn y batris, er mwyn galluogi i denantiaid ddefnyddio ynni yn ystod y nosweithiau.
Meddai’r Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau Cyngor Sir Ddinbych: “Rydym ni’n falch o gyflwyno ein gwaith gwella ynni i’n cartrefi cyngor yng Nghanol-y-Dre.
“Ar ôl cwblhau’r gwaith bydd y cartrefi hyn â gwell effeithlonrwydd ynni yn ystod cyfnod o gostau tanwydd cynyddol, a bydd hefyd yn cefnogi gwaith parhaus y Cyngor i leihau ein hôl-troed carbon ar draws y sir.