Y Wybodaeth Ddiweddaraf ar Ddatblygu Cymunedol
Mae ein tîm datblygu cymunedol (gwytnwch) wedi bod yn brysur dros yr haf, yn darparu cefnogaeth, cyngor a rhaglenni gweithgaredd hwyliog o fewn ein cymunedau. Mae'r rhain yn cynnwys:
Gadewch i ni chwarae allan
Yn ystod gwyliau’r haf, roeddem yn gweithio mewn partneriaeth gyda Phartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych, Hamdden Sir Ddinbych Cyf a Sir Ddinbych yn Chwarae. Gyda’n gilydd gwnaethom ddarparu sesiynau Gadewch i Ni Chwarae Allan yng Nghorwen (dydd Mercher, 10.30am-12.30pm) a Llangollen (dydd Mercher 2.00pm-3.00pm) i dros 100 o bobl! Roedd y gweithgareddau'n cynnwys chwaraeon, chwarae blêr, celf a chrefftau. Roedd teuluoedd yn dweud eu bod wirioneddol yn mwynhau’r sesiynau wythnosol ac yn methu aros iddynt gael eu cynnal yn ystod pob gwyliau ysgol. Cadwch olwg ar dudalen Facebook SCDP am fwy o wybodaeth https://www.facebook.com/SouthDenbighshireCommunityPartnership
Sioeau Teithiol Costau Byw
Gweithio mewn partneriaeth gyda Dŵr Cymru, Nest, Cymru Gynnes, Undeb Credyd Cambrian, Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, Uned Benthyg Arian Anghyfreithiol Cymru a Sir Ddinbych yn Gweithio, mae ein tîm wedi bod ar daith ar draws y sir, yn cynghori pobl am yr argyfwng costau byw.
Roeddem eisiau ymweld â’n cymunedau, gwrando ar bobl am eu pryderon, cynnig cyngor a chefnogaeth am gostau cynyddol ynni, tanwydd a bwyd. Roedd partneriaid yn gallu rhannu syniadau, cyngor ac awgrymiadau sut i helpu yn ystod y misoedd i ddod.
Roedd 450 o breswylwyr wedi dod draw i’n sioeau teithiol, gyda 26 yn cael eu hatgyfeirio ar gyfer mwy o gefnogaeth. Roedd adborth o’r digwyddiadau yn dangos bod hyn yn rhywbeth mae cymunedau eisiau ac rydym yn gobeithio bod o gwmpas eto’n fuan. Cadwch olwg ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Prosiect Bwyta’n Dda, Coginio’n Araf
Yn dilyn peilot llwyddiannus yn 2020/2021, daeth Tai Sir Ddinbych a Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych ynghyd eto i ddarparu poptai araf i’n tenantiaid.
Syniad y prosiect oedd cysylltu â thenantiaid oedd mewn perygl o ddioddef tlodi bwyd a thanwydd y gaeaf hwn. Derbyniodd 66 o denantiaid bopty araf, cynhwysion ffres, llyfr rysáit a dolen i arddangosiadau ar-lein ar sut i baratoi prydau, ynghyd â mesurau arbed ynni.
Gwnaethom holi’r tenantiaid sut oeddent yn dod ymlaen, yn ogystal â chael sgwrs am wneud y mwyaf o incwm aelwyd, lleihau costau ble gallent, datrys materion dyled, cyngor am ynni a chyfleustodau a sut i ymgeisio am grantiau a hawliadau.
Gan fod hwn yn brosiect mor llwyddiannus, byddwn yn parhau i weithio gyda Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn y dyfodol, i helpu ein tenantiaid.
Agoriad Swyddogol Canolbwynt Cymunedol Pengwern:
Ym mis Awst, agorwyd Canolbwynt Cymunedol newydd Pengwern yn swyddogol gan Gadeirydd Cyngor Sir Ddinbych. Roedd teuluoedd o’r gymuned leol wedi dod draw i fwynhau gweithgareddau gan gynnwys celf, crefft, natur, plethu gwallt, breichledau a llawer mwy. Roedd yna wiriadau beics hefyd, adloniant a lluniaeth.
Mae’r ganolfan yn gweithio i gynyddu cyfleoedd i wella sgiliau a dyheadau, ynghyd ag adnoddau i ddarparu gweithgareddau a gwasanaethau i gefnogi pobl.
Dywedodd y Cynghorydd. Rhys Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau: “Rydym yn falch iawn o barhau i weithio gyda’n sefydliadau partner i gefnogi gwaith parhaus y ganolfan i wella lles cyffredinol y gymuned leol.”
Dywedodd Margaret Sutherland, Prif Swyddog Gweithredol Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych (SDCP): “Mae SDCP yn falch o weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych a Chyfeillion Pengwern ar ddatblygiad y ganolfan gymunedol, a fydd yn darparu gwell gweithgareddau a gwasanaethau ar gyfer cymuned Llangollen.
“Nododd ymgynghoriad yn ystod haf 2021 y gwasanaethau a’r gweithgareddau yr oedd y gymuned yn teimlo eu bod eu hangen. Mae gan bob partner ddyheadau clir iawn ar gyfer y canolbwynt i ddarparu lle y bydd Cymuned Llangollen yn ei chroesawu ac yn cyfrannu at ei rheoli a’i chyfeirio.”
Cadwch olwg ar dudalen Facebook y Canolbwynt am y gweithgareddau diweddaraf a drefnwyd.