Cerbydau trydan ar gyfer staff gofal cymdeithasol
Mae'r Cyngor wedi bod yn helpu’r sector gofal cymdeithasol a lleihau ei ôl-troed carbon drwy hwyluso’r defnydd o gerbydau trydan yn ogystal â darparu mynediad at wersi gyrru i staff sy’n darparu gofal yn y cartref.
Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae’r Cyngor erbyn hyn wedi caffael 10 cerbyd trydan sydd ar gael i staff sy’n darparu gofal ac wedi dyfarnu grantiau i ddarparwyr ar gyfer gwersi gyrru.
Yn dilyn proses ymgeisio, mae dau ddarparwr gofal yn y cartref, Co-options a Thŷ Alexandra, wedi cael dau gerbyd trydan ar brydles bum mlynedd heb unrhyw gost. Mae’r Cyngor hefyd wedi rhoi beic trydan i Co-options at ddefnydd staff gofal nad ydyn nhw’n gyrru.
Mae’r cerbydau eraill yn cael eu defnyddio gan staff gofal yn y cartref y Cyngor.
Mae’r cerbydau trydan, yn ogystal â’r grantiau gwersi gyrru sydd wedi’u dyfarnu i staff gofal, yn cefnogi gweithwyr gofal yn y cartref i ddarparu gofal sydd wir ei angen i ddinasyddion y sir.
Mae cerbydau fflyd y Cyngor yn cael eu newid am gerbydau trydan wrth iddyn nhw ddod i ddiwedd eu hoes. Maen nhw’n cael eu disodli gan gerbydau sy’n allyrru llai o garbon.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd y cerbydau hyn yn helpu’r amgylchedd yn ogystal â helpu’r staff sydd yn eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau pwysig a gofal i bobl Sir Ddinbych.
"Mae’n wych bod darparwyr gofal yn y cartref annibynnol yn cael mynediad at y cerbydau hyn, gan fod defnyddio cerbydau trydan yn helpu i leihau’r carbon sy’n cael ei gynhyrchu.”
Meddai’r Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Rydym yn ddiolchgar iawn am y cyllid hwn a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru gan fod cludiant dibynadwy ar gyfer ein timau gofal cymdeithasol yn hanfodol.
"Maent yn chwarae rhan enfawr wrth gefnogi a gofalu am y bobl yn ein sir.
"Nid yn unig y mae’r fenter hon yn cefnogi ein cenhadaeth i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel i’n cymuned, mae o hefyd yn cyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar i’n gwlad sy’n hanfodol.”