Sesiynau Realiti Rhithwir yn cael eu cynnig i staff Gofal Cymdeithasol
Fel rhan o wythnos diogelu, roedd aelodau o staff Cyngor Sir Ddinbych yn y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Digartrefedd wedi cymryd rhan mewn sesiynau Realiti Rhithwir unigryw er mwyn trochi eu hunain mewn meysydd fel trawma a diogelu.
Trwy ddechrau ar daith trwy Realiti Rhithwir, bydd ymarferwyr yn profi cyfres o ffilmiau Realiti Rhithwir gan ddilyn bywydau plant a phobl ifanc yn agos o’r cyfnod cyn geni at y glasoed, gan eu helpu i gael dealltwriaeth well o feysydd fel trawma ac esgeulustod a sut gallai hyn gael effaith ar eu bywyd yn nes ymlaen.
Mae’r dechnoleg hon yn caniatáu amgylchedd dysgu sy’n trochi a helpu i hyrwyddo dysgu a datblygu, gan gryfhau empathi a chanolbwyntio ar ganlyniadau unigol.
Defnyddir yr hyfforddiant Realiti Rhithwir fel adnodd ymyrraeth hefyd mewn unrhyw gyd-destun diogelu er mwyn gwella bywydau plant a phobl ifanc ac mae’n rhoi safbwynt unigryw i weithwyr proffesiynol, rhieni, gwarcheidwaid neu ddarparwyr gofal o brofiad go iawn rhywun sy’n gweithio i reoli trawma.
Dywedodd Kevin Jarvis, Rheolwr Tîm, Cymorth i Fusnesau: “Mae’r dull unigryw hwn o ddysgu yn seiliedig ar brofiad uniongyrchol o ofal cymdeithasol a’r materion allweddol sy’n wynebu unigolion sydd wedi profi digwyddiadau bywyd trawmatig, ac mae’n boblogaidd gan ymgysylltu pobl a sefydlu fforwm cryf ar gyfer trafodaeth a myfyrdod ar wraidd trawma.
"Yn Sir Ddinbych, rydym yn ystyried defnyddio Realiti Rhithwir fel dull blaengar o ddysgu a datblygu a fydd yn ategu ein modelau darparu presennol a hyrwyddo trafodaeth am sut gallwn ni i gyd fod yn fwy ymwybodol o drawma wrth i ni weithio.”
Dywedodd Laurel Morgan, Rheolwr y Tîm Therapiwtig: “Mae wedi bod yn ddefnyddiol defnyddio Realiti Rhithwir i wella arfer myfyriol, creu rhagor o fewnwelediad a datblygu ein ffordd o feddwl o ran arfer a gaiff ei lywio gan drawma.
"Rydym wedi defnyddio Realiti Rhithwir yn y Gwasanaethau Plant, gydag asiantaethau partner a gyda’r teuluoedd yn Sir Ddinbych.
"Mae wedi bod yn adnodd defnyddiol i hyrwyddo ymgysylltiad a dealltwriaeth.”
Dywedodd y Cynghorydd Elen Heaton, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae’n bwysig bod gan ein staff y ddealltwriaeth orau o’u meysydd arbenigol.
"Bydd yr hyfforddiant Realiti Rhithwir hwn yn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth staff ymhellach wrth weithio gydag unigolion mwy diamddiffyn, gan helpu i feithrin ymatebion gwell a mwy deallus.”