Mae’r ardal newydd yn rhan o wobr yr ysgol ar ôl iddi ennill cystadleuaeth Cardiau Post o’r Dyfodol y Cyngor lle roedd gofyn i ddisgyblion anfon neges yn ôl drwy amser i’n helpu i ddeall sut i greu gwell dyfodol i ni ein hunain yn ein sir ac ar draws y byd.

Apeliodd Macey, un o ddisgyblion Ysgol Tir Morfa, yn ôl o’r dyfodol i bobl amddiffyn cartrefi anifeiliaid a’u diogelu ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Gwobr yr enillwyr oedd detholiad o lyfrau amgylcheddol i’w hysgol, sgwrs gan Dîm Bioamrywiaeth y Cyngor Sir a chasgliad o blanhigion i’w plannu er mwyn creu neu wella ardal blodau gwyllt.

Ymunodd y Swyddog Bioamrywiaeth, Ellie Wainwright a’r Ceidwad Cefn Gwlad Cynorthwyol, Amy Baker â myfyrwyr Ysgol Tir Morfa i blannu’r blodau. Tyfwyd y blodau gwyllt ym mhlanhigfa goed y Cyngor yn Llanelwy o hadau a gynaeafwyd o ddolydd y sir, a chanolfan Sgiliau Coetir ym Modfari.

Ers y 1950 mae dros 95 y cant o’n dolydd blodau wedi diflannu. Bydd yr ardal flodau gwyllt sy’n cael ei chreu drwy’r prosiect hwn yn darparu cynefin ar gyfer amrywiaeth eang o fywyd gwyllt uwchben ac o dan y ddaear, a bydd y blodau’n ffynhonnell o neithdar ar gyfer peillwyr sy’n dibynnu arnynt am fwyd a datblygiad eu larfâu.

Bydd cyflwyno’r disgyblion i ardaloedd blodau gwyllt yn eu helpu nhw i ddysgu am gylch bywyd planhigion a chynefinoedd pryfed, yn eu cyflwyno i gyfleoedd synhwyraidd a chreadigol ac yn gwneud chwarae allan ym myd natur yn rhywbeth naturiol.

Fel rhan o ymateb y cyngor i ddatgan Argyfwng Hinsawdd ac Ecolegol, bydd y myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn rhagor o blannu coed a blodau gwyllt ar dir yr ysgol dros y misoedd i ddod fel rhan o’r ymgyrch i hybu bioamrywiaeth a lleihau newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae natur yn dirywio ar draws Cymru felly mae’n bwysig ein bod yn gweithio i stopio hyn gan y bydd yn effeithio arnom ni heddiw ac ar genedlaethau’r dyfodol.

"Mae’n wych gweld y myfyrwyr yn dal i gymryd cymaint o ran mewn helpu natur leol yn y Rhyl, mae’r ffaith eu bod yn cymryd amser i wneud hyn yn ysbrydoliaeth ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut y bydd yr ardal newydd nid yn unig yn helpu rhywogaethau i ffynnu ond hefyd yn hybu lles y disgyblion eu hunain wrth iddyn nhw fwynhau canlyniadau eu gwaith”.