Mae rheolwyr dôl Blodau Gwyllt Rhuthun wedi creu'r amgylchedd perffaith ar gyfer preswylydd newydd.

Mae tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych wedi darganfod ychwanegiadau newydd ar ddiwedd tymor 2023 i ddôl blodau gwyllt yn Stryd y Brython.

Dechreuodd Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt y Cyngor, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru trwy’r Grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, yn 2019 ac mae dros 10,000 o blanhigion unigol wedi’u cofnodi ar draws y holl safleoedd cysylltiedig hyd yma.

Mae Stryd y Brython yn un o safleoedd hŷn y prosiect sydd wedi rhoi amser i’r planhigion aeddfedu a thyfu gyda rheolaeth a monitro gan y swyddogion sydd ynghlwm â’r prosiect.

Yn gynharach eleni, yn y cynefin a grëwyd yn y ddôl, darganfuwyd gwenyn turio llwydfelyn yn nythu ar y safle.

Bellach mae nifer o wahanol fathau o ffwng capiau cwyr yn ymddangos.

Mae’r capiau cwyr yn rhywogaethau sy’n dirywio yn sgil eu hoffter am dyfu ar laswelltir heb ei wella a glaswelltiroedd heb ei wella gan amaeth. Mae capiau cwyr yn ffwng siâp cyfarwydd sy’n aml iawn yn lliwgar a gyda chap sy’n edrych yn gwyraidd neu’n llithrig.

Nod rheoli dolydd y Cyngor yw dod a thir cynefin addas yn ôl a gollwyd dros y blynyddoedd, er mwyn cefnogi natur leol a lles y cymunedau amgylchynol trwy roi mwy o gymorth i rywogaethau sydd o dan bwysau i oroesi yn y dyfodol.

Meddai Liam Blazey, Swyddog Bioamrywiaeth: “Mae wedi bod yn wych gweld hyn gan ei fod yn dangos fod y gwaith rheoli rydym yn ei gyflawni yn gwella amrywiaeth y blodau a bioamrywiaeth pridd hefyd. Mae capiau cwyr yn ffwng arbennig iawn, ac rydym yn gyffrous i’w gweld yn ymddangos yn un o’n safleoedd.”

Meddai’r Cyng. Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae’r dolydd y mae ein timoedd Gwasanaethau Stryd a Bioamrywiaeth yn eu creu yn cymryd amser i dyfu ac aeddfedu i gynefin a fydd yn darparu cefnogaeth gref ar gyfer natur leol. Mae Stryd y Brython yn enghraifft gadarnhaol iawn o’r hyn rydym yn ceisio ei wneud a’i roi i’r gymuned yn ein holl safleoedd.

“Mae’r darganfyddiad diweddaraf ar y safle, ynghyd â thyfiant y blodau gwyllt a’r gwenyn turio llwydfelyn, yn awgrym cryf fod rheolaeth y tîm o’r ddôl yn rhoi ail gyfle i rywogaethau sydd o dan fygythiad i ffynnu ymysg ein cymunedau yn y sir.”

Gall drigolion helpu i gefnogi rhywogaethau Capiau Cwyr drwy gymryd rhan yn arolwg Capiau Cwyr Plantlife yma - https://www.plantlife.org.uk/waxcapwatch/