Bu i Oruchwyliwr Arlwyo y Cyngor, Claire Stott, ennill ‘Gwobr Talent Newydd’ am ei gwaith a’i chynnydd ardderchog. Dechreuodd Claire fel Cynorthwy-ydd Arlwyo 7 mlynedd yn ôl ac mae wedi dangos angerdd, penderfyniad a chymhelliant i fanteisio ar yr holl gyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael iddi, yn fewnol a thrwy bartneriaethau allanol i gael y cymwysterau, sgiliau a’r profiad i’w galluogi i gael sawl dyrchafiad.
Bu iddi ddatblygu i fod yn Gogydd Ardal, Cogydd Ysgol Uwchradd ac mae bellach yn Oruchwyliwr Arlwyo Ardal. Mae Claire yn cefnogi’r tîm rheoli arlwyo gyda gweithrediad gwasanaethau arlwyo yng ngogledd Sir Ddinbych o ddydd i ddydd, ac mae’n helpu gyda chyflwyno’r cynllun Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd.
Cafodd Shelley Houston, Cogyddes yn Ysgol Emmanuel hefyd ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer ‘Gwobr Seren Ddisglair’ am ei hymrwymiad i’r gwasanaeth prydau ysgol yn Sir Ddinbych. Mae Shelley wedi gweithio fel cogyddes yn y gwasanaeth am 30 mlynedd.
Cafodd Hayley Jones, Prif Reolwr Arlwyo a Glanhau, ei galw i’r llwyfan i dderbyn ‘Gwobr Bwyd mewn Ysgolion Llywodraeth Cymru’. Cafodd y wobr hon ei chyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych, yn ogystal â nifer o awdurdodau lleol eraill, fel Cydnabyddiaeth am Ragoriaeth am ddarparu’r prosiect Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd.
Hayley Jones
Cafodd y wobr hon ei derbyn ar ran pawb yn Sir Ddinbych sydd wedi bod yn rhan o, ac wedi cefnogi’r gwasanaeth Arlwyo.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Hayley: “Roedd yn fraint enfawr cael derbyn y wobr ar ran pawb yn Sir Ddinbych sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod y prosiect a’r gwaith yn cael ei gwblhau ar amser.
"Mae cyflwyno’r prosiect Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd wedi bod yn ymdrech tîm, gyda nifer o adrannau yn rhan ohono i sicrhau bod gan y gwasanaeth y gallu i goginio’r prydau ychwanegol.”
Dywedodd Paul Jackson, Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol: “Rwy’n falch iawn o weld bod ein staff gweithgar wedi cael eu hanrhydeddu am eu gwaith caled a’u syniadau arloesol, mae’n gwbl haeddiannol.
"Mae’r staff yn gweithio’n ddiflino, llawer y tu ôl i’r llenni, i sicrhau bod ein hadran arlwyo yn rhedeg mor esmwyth â phosibl, a gallaf ond eu canmol am eu gwaith caled. Da iawn i’r rheiny a gyrhaeddodd y rhestr fer ac wrth gwrs i’r enillwyr.”
Mae CAAL - Cymru (Cymdeithas Arlwyo Awdurdodau Lleol) yn gorff proffesiynol a sefydlwyd i gefnogi Arlwywyr Ysgol ar draws y DU.