Ymgynghoriad cyhoeddus ar gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yng nghanol tref y Rhyl.
Mae'r Cyngor a Heddlu Gogledd Cymru yn bwriadu cyflwyno Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (PSPO) yng Nghanol Dref Y Rhyl ac yn ceisio barn y cyhoedd ar y mater.
Bydd y PSPO hwn yn rhwystro ac yn mynd i’r afael â’r broblem o unigolion a grwpiau yn yfed alcohol ac/neu yn ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol yng nghanol tref y Rhyl. Hwn fyddai’r trydydd PSPO sydd wedi’i weithredu yn yr ardal ers 2016.
Tra bo nifer o fesurau yn eu lle i helpu i rwystro ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol tref y Rhyl, er enghraifft cyfarfodydd rheolaidd rhwng sefydliadau partner i drafod sut i fynd i’r afael â phroblemau ar y cyd, darpariaeth gwasanaeth ar gyfer y rhai hynny sydd â phroblemau alcohol a Chanolfan Ieuenctid y Rhyl, mae cyfraddau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal dal i fod yn uchel.
Tra byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth i atal y materion hyn yn y dyfodol, byddai PSPO yn cynnig teclyn ychwanegol i Heddlu Gogledd Cymru i fynd i’r afael â’r materion hyn.
Agorodd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar borth Sgwrs y Sir y Cyngor o 13 Tachwedd a bydd yn derbyn ymatebion tan 21 Ionawr.
Dywedodd Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau, y Cynghorydd Rhys Thomas: ”Rydym yn annog unrhyw un sy’n byw yn y Rhyl neu sydd wedi byw yn yr ardal o’r blaen i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad i rannu eu barn ar y mater.
"Rydym eisiau clywed barn pobl ar effeithlonrwydd PSPO a hefyd os ydynt yn credu bod yr ardaloedd sydd wedi’u henwi yn y gorchymyn arfaethedig yn targedu’r ardaloedd y mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio fwyaf arnynt
“Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fater pwysig y mae angen mynd i’r afael ag o yn yr ardal ac rydym yn awyddus i glywed barn pobl ar y mater er mwyn sicrhau bod ein mesurau gwarchod y cyhoedd yn y Rhyl yn addas ar gyfer yr ardal.”
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i wefan Sgwrs y Sir