Crefft draddodiadol yn gwella cynefinoedd mewn ystafell ddosbarth fyw
Mae crefft draddodiadol yn helpu hafan natur ysgol i barhau i gefnogi bywyd gwyllt lleol.
Mae staff a gwirfoddolwyr Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, gyda chymorth Natur er Budd Iechyd wedi defnyddio techneg hynafol i helpu i greu cynefinoedd cryfach ar gyfer natur ar dir yng Nglasdir, Rhuthun.
Dros y blynyddoedd mae timau cefn gwlad wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Stryd y Rhos i greu a rheoli ystafell dosbarth awyr agored brysur i ddisgyblion ei mwynhau a dysgu ohoni.
Ar y safle mae cuddfan adar, dolydd bywyd gwyllt, perllannau, blwch gwenyn, trapiau camera a phwll corstir i helpu plant i ddysgu am natur a sut i’w chefnogi eu hunain.
Rŵan mae staff cefn gwlad Sir Ddinbych a gwirfoddolwyr wedi creu amddiffyniad ychwanegol i fyd natur drwy osod gwrychoedd ar y safle.
Crefft draddodiadol yw hon lle caiff coesau rhes o wrychoedd eu torri’n rhannol a’u gosod ar ongl er mwyn annog tyfiant o’r gwaelod fel bod y gwrychoedd yn plethu a’i gilydd ac yn tewychu gan greu cynefin trwchus i fioamrywiaeth.
Mae’n dechneg a ddefnyddiwyd gan y rhan fwyaf o ffermwyr a thirfeddianwyr am ganrifoedd fel rhan o reoli eu ffiniau cyn i dechnegau rheoli gwrychoedd mecanyddol gymryd drosodd. Fodd bynnag mae astudiaethau wedi dangos bod yr hen ddull traddodiadol yn llawer mwy effeithiol o ran adfywio gwrychoedd er budd natur leol.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae hon yn bartneriaeth wych rhwng Ysgol Stryd y Rhos a’n timau cefn gwlad sy’n caniatáu i’r disgyblion ddysgu am, gwerthfawrogi a chynnig eu syniadau eu hunain am sut i gefnogi natur leol, sydd mor bwysig ar hyn o bryd.
“Mae’n wych fod y grefft draddodiadol hon wedi’i defnyddio yn ystafell ddosbarth fyw Glasdir gan y bydd yn rhoi mwy o gefnogaeth fyth i natur ar y safle ac yn gyfle i’r disgyblion wylio a dysgu wrth i’r gwrychoedd ddatblygu’n gynefinoedd cyfoethog dros amser."