Mae partneriaeth gymunedol sy’n helpu natur i ffynnu mewn lleoliad poblogaidd yn Rhuddlan wedi cael gwobr genedlaethol.
Mae staff Cefn Gwlad y Cyngor wedi gweithio’n agos gyda Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Natur Rhuddlan i ddatblygu cynefin natur prysur yng Ngwarchodfa Natur Rhuddlan.
Mae staff y gwasanaethau cefn gwlad wedi bod yn helpu i reoli’r safle ers ei agor yn 2011 ar ran y Grŵp, i roi bywyd newydd i nifer o fentrau natur a mentrau’r gymuned leol.
Mae’r warchodfa natur wedi ehangu dros y blynyddoedd gyda chyflwyno mentrau sy’n cynnwys dwy ddôl o flodau gwyllt, tri phwll bywyd gwyllt, 300 medr o wrychoedd, lleiniau blodau gwyllt, plannu 6,000 o goed, perllan rhywogaethau treftadaeth, dau fan picnic a llwyfan rhwydo pyllau.
Ychwanegiad unigryw i’r warchodfa natur yw’r Ardd Synhwyraidd sydd wedi cynnwys y Grŵp Dementia lleol a grŵp y warchodfa natur yn gweithio gyda staff y Gwasanaeth Cefn Gwlad.
Y llynedd, cafodd y bartneriaeth ei hanrhydeddu am ei hymrwymiad i natur a’r gymuned trwy ennill gwobr Cymru yn ei Blodau ‘Overall It’s Your Neighbourhood 2022 for Wales’ , a Thystysgrif Rhagoriaeth Cenedlaethol y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol.
Ar gyfer 2023, mae’r timau sy’n gofalu am y safle yn dathlu eto ar ôl ennill gwobr ‘Outstanding It’s Your Neighbourhood’ a Thystysgrif Rhagoriaeth Cenedlaethol y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol eto.
Dywedodd Anita Fagan, Cadeirydd Grŵp Ymgynghorol Rheoli Gwarchodfa Natur Rhuddlan: “Fel gwraig Raymond Fagan, a oedd yn allweddol wrth greu’r safle hyfryd hwn ar y cyd â thîm Gwasanaethau Cefn Gwlad Cyngor Sir Ddinbych, mae’n anrhydedd cadeirio Grŵp Ymgynghorol Rheoli’r Warchodfa Natur.
“Mae gan y Pwyllgor bartneriaeth gefnogol, ac mae'n dysgu’n barhaus sut i annog bioamrywiaeth orau er budd iechyd yr ardal, ar y cyd â chysylltu â’r gymuned leol ac ymwelwyr trwy deithiau cerdded addysgol a helfeydd antur bywyd gwyllt er mwyn hyrwyddo diddordeb a mwynhau Byd Natur.
“Hoffwn ddiolch yn arbennig i Garry Davies, Jim Kilpatrick a Bradley Shackleton, y tîm gwasanaethau cefn gwlad, am feithrin a rheoli’r adnodd hyfryd hwn ar gyfer Rhuddlan mewn modd cyson a rhagorol.”
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae tîm mor wych o’r gymuned a’n Gwasanaeth Cefn Gwlad yn rheoli a gwella’r safle gwych hwn er mwyn i natur leol ffynnu ac er mwyn i breswylwyr lleol ei fwynhau pan fyddant yn ymweld ag ef.
“Mae’r cydweithio hwn wedi dangos llawer o angerdd dros wella’r cynefinoedd ar y safle a rhoi rhywbeth i’r gymuned leol fod yn falch ohono ac rwy’n falch bod eu gwaith caled wedi’i gydnabod unwaith eto.”