Mae gwaith yn mynd rhagddo i helpu glöyn byw prin i ffynnu yn Sir Ddinbych.

Mae Planhigfa Goed Tarddiad Lleol Cyngor Sir Ddinbych yn Llanelwy yn cynnig help llaw i goeden sydd dan fygythiad ac yn darparu bwyd hanfodol i löyn byw prin.

Mae tîm Bioamrywiaeth y Cyngor wedi casglu hadau gan Lwyfenni Llydanddail sy’n tyfu ym Mharc Gweledig Loggerheads yn ddiweddar i’w tyfu yn y blanhigfa goed. Bydd y rhain yn cael eu plannu yn natblygiad Gwarchodfa Natur Green Gates ger y blanhigfa goed yn y pen draw.

Ariennir y gwaith hwn a phrosiectau eraill ar y safle i ddiogelu rhywogaethau coed a blodau gwyllt lleol gan Lywodraeth Cymru drwy’r grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur fel rhan o waith y Cyngor â’r Bartneriaeth Natur Leol.

Mae Llwyfenni Llydanddail dan fygythiad yn sgil clefyd llwyfen yr Isalmaen, a bu’n rhaid torri nifer o goed yn sgil effaith y clefyd hwn, sydd wedi lleihau twf a lledaeniad coed iau.

Mae’r goeden hon yn blanhigyn bwyd larfaol i’r Brithribin Gwyn, a gofnodwyd yn Loggerheads ychydig o flynyddoedd yn ôl, ond mae bellach yn brin iawn yn y sir.

Mae’r glöyn byw hwn yn ddibynnol ar flagur blodau’r Llwyfenni Llydanddail fel bwyd i oroesi.

Eglurodd Sam Brown, Cynorthwyydd y Blanhigfa Goed: “Mae’r Llwyfenni Llydanddail yr ydym wedi’u plannu yn y blanhigfa wedi tyfu’n dda iawn. Mae eu niferoedd wedi gostwng dros y blynyddoedd yn sgil clefyd llwyfen yr Isalmaen a’r amharodrwydd i ailblannu’r goeden.

“Fodd bynnag, mae’r Llwyfenni Llydanddail yn ffynhonnell fwyd hollbwysig i’r Brithribin Gwyn, a byddai’r glöyn byw’n diflannu hebddynt. Nid yw pobl yn plannu Llwyfenni mwyach gan fod clefyd llwyfen yr Isalmaen yn eu lladd cyn iddynt aeddfedu. Nid oes ar y glöyn byw angen Llwyfenni aeddfed, mae’r coed ifanc yn ddigon hen i ddarparu bwyd ar eu cyfer.

“Gallwn ddefnyddio’r coed yr ydym wedi’u tyfu yma i’w hychwanegu at wrychoedd er mwyn cynnal eu huchder, lleihau effaith clefyd llwyfen yr Isalmaen a’u hannog i flodeuo am flynyddoedd cyn aeddfedu.

“Mae’r goeden hon yn esiampl berffaith o’r pwysigrwydd o geisio gwarchod coed a phlanhigion lleol gan fod bob un ohonynt yn cyfrannu at ddarparu ffynonellau bwyd hanfodol i bryfaid ac anifeiliaid, a’r lleiaf ohonynt sy’n tyfu o amgylch y sir, y mwyaf yw’r risg i’n natur leol.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae ein tîm Bioamrywiaeth yn gweithio’n galed i ddiogelu nifer o rywogaethau sydd bellach yn brin.

“Bydd yr ymdrech wych hon yn helpu’r Brithribin Gwyn i adfer ar draws y sir, yn ogystal â rhoi blas ar natur y gorffennol i’w fwynhau gan genedlaethau’r dyfodol yn yr awyr agored.”