Gorffennaf 2025

23/06/2025

Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Estynnir gwahoddiad i drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr â Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i chwarae rhan hollbwysig mewn llunio dyfodol un o dirweddau harddaf a mwyaf nodedig y DU yng Ngogledd Cymru.

I ddechrau, gall aelodau’r cyhoedd ychwanegu eu llais at yr hyn y maent yn ei feddwl sy’n gwneud Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arbennig. Bydd y wybodaeth honno’n cael ei defnyddio i benderfynu pa rannau o’r dirwedd genedlaethol gydnabyddedig honno a fydd yn cael sylw a gofal arbennig ychwanegol.

Yn ogystal â hynny, bydd nifer gyfyngedig o bobl yn cael eu dewis i gymryd rhan mewn Panel Dinasyddion - sy’n cynnwys pobl gyffredin sy’n byw ac yn gweithio yn y dirwedd ac yn ymweld â hi - i roi ffocws i dîm a phartneriaid y Dirwedd Genedlaethol am y pum mlynedd nesaf.

Bydd y Panel yn trafod y tair prif thema ganlynol:

  • Natur a Defnydd Tir - gan gynnwys adfer natur, newid yn yr hinsawdd a rheoli tir.
  • Cymunedau a Gwydn - edrych ar wasanaethau, tai, cyflogaeth a thrafnidiaeth.
  • Mwynhad a Lles - gan gynnwys twristiaeth, hamdden a pha fath o economi ymwelwyr sydd orau i’r ardal.

Dwedodd David Shiel, Rheolwr Ardal Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy:

“Mae hwn yn brosiect mor gyffrous. Rydym am gael pobl i gymryd rhan er mwyn helpu i lunio sut y gofelir am y dirwedd werthfawr hon a’i gwella ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Pwrpas Tirwedd Genedlaethol yw gwarchod a gwella harddwch naturiol y dirwedd. Ond nid dyna’r cyfan. Rhaid iddi hefyd gefnogi cymunedau ffyniannus, natur wydn a thwristiaeth gynaliadwy. I wneud hynny’n dda, mae angen i ni glywed yn uniongyrchol gan y bobl sy’n adnabod ac yn mwynhau’r ardal orau.

 “P’un a ydych chi’n byw yn yr ardal, yn gweithio yma, neu’n ymwelydd, mae eich llais yn bwysig”.

I gofrestru cliciwch ar y ddolen ganlynol: https://forms.office.com/e/ai86gmyJKv

Y dyddiad cau i gofrestru yw 31 Gorffennaf 2025. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â David Shiel ar david.shiel@denbighshire.gov.uk neu galwch 07774 841939.

Comments