Gorffennaf 2025

15/07/2025

Yr Artist Matthew Wood yn Rhoddi Paentiad i Nantclwyd y Dre

Yn dilyn ei arddangosfa ddiweddar, mae’r artist Matthew Wood wedi rhoddi paentiad i’r tŷ hanesyddol i nodi diwedd ei gyfnod preswyl yn 2025.

Mae’r gwaith celf, fersiwn llai o baentiad lamp olew poblogaidd Wood, yn darlunio cyntedd o’r 1940au yn Nantclwyd y Dre. Yn cynnwys golau ysgafn yn disgyn ar draws hen lamp olew trwy ffenestr wydr gywrain yn y cefndir, mae’r darn yn cynnwys moment hardd yn hanes y tŷ.

Mae’r paentiad wedi dod yn ganolbwynt i arddangosfa ddiweddar Wood o dros 20 o waith penodol i’r safle a grëwyd yn ystod ei gyfnod preswyl.

Derbyniodd y Rheolwr Safle, Kate Thomson y paentiad ar ran yr atyniad treftadaeth poblogaidd, gan ddweud:

“Rydym wrth ein boddau i dderbyn y rhodd hwn gan Matthew. Mae ei baentiad yn dal ysbryd y tŷ yn hardd; y golau, y lliwiau, a manylion gofalus y ffenestr wydr a’r cyntedd sydd yn olygfa y mae’r ymwelwyr yn ei weld gyntaf wrth ymweld. Bydd yn gofarwydd o’i amser yma y gall ymwelwyr ei fwynhau am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

“Mae’n wych derbyn y paentiad hwn yn dilyn cyfnod preswyl Matthew yn Nantclwyd y Dre. Roedd y gweithdai a’r arddangosfa a gynhaliwyd yn llwyddiant ysgubol ac mae wedi bod yn wych cynnal digwyddiadau fel y rhain yn un o’n safleoedd treftadaeth”.

Roedd cyfnod preswyl Wood yn cynnwys arddangosfa lwyddiannus (Ebrill-Mehefin 2025), a oedd yn dangos ei gasgliad newydd wedi’i ysbrydoli gan bensaernïaeth ac awyrgylch y tŷ, yn ogystal â chyfres o weithdai i fyfyrwyr a’r cyhoedd. Bydd y rhodd yn dod yn rhan o gasgliad parhaol yn Nantclwyd y Dre.

Comments