22/10/2025
Cefnogaeth gwirfoddolwyr yn cael ei chydnabod yn genedlaethol ar gyfer gerddi hanesyddol

Mae cynllun gwobrau cenedlaethol wedi cydnabod ymdrechion gwirfoddolwyr i gefnogi safle hanesyddol yn y Rhyl.
Tynnwyd sylw at waith Cymdeithas Preswylwyr De-orllewin Canol y Rhyl i gefnogi Gerddi Botaneg y Rhyl yn ddiweddar yng Ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2025.
Mae'r grŵp o wirfoddolwyr yn gweithio i gefnogi ffyniant a thwf parhaus y safle hanesyddol hwn yn y dref sy'n eiddo i Gyngor Sir Dinbych ac yn cael ei gefnogi gan Wasanaethau Stryd y Cyngor.
Cafodd Gerddi Botaneg y Rhyl eu sefydlu ym 1878 pan werthwyd y gerddi am y tro gyntaf, gan arddangos ardal yn llawn gwahanol rywogaethau o goed, phlanhigion a phwll lili. Ym 1928 agorwyd cyfleusterau newydd i'r cyhoedd, fel y cyrtiau tennis.
Cydnabuwyd gwirfoddolwyr am eu cefnogaeth i'r gerddi yn 2008 pan gawson nhw Wobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn 2008 am eu gwaith yn ymwneud ag adfer a rheoli'r gerddi.
Yn 2017 gwnaeth Iarll ac Iarlles Wessex ymweld â'r Gerddi Botaneg hefyd i gwrdd â'r bobl sy'n gweithio i amddiffyn ac ehangu'r safle a phlannwyd coeden gas gan fwnci yno.
Cafodd Gwirfoddolwyr Gerddi Botaneg y Rhyl eu cynnwys yng ngwobrau’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol a Chymru yn ei Blodau, ‘Eich Cymdogaeth Chi’ 2025. Mae’r maes hwn yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau yn gynllun i grwpiau garddio gwirfoddol cymunedol sy’n canolbwyntio ar lanhau a gwneud eu hardaloedd lleol yn fwy gwyrdd.
Dyfarnodd beirniaid Cymru yn ei Blodau ddosbarthiad Lefel 2 ‘Gwella’ i’r tîm ar gyfer 2025.
Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’n wych gweld y gwirfoddolwyr hyn yn cael eu cydnabod gan Gymru yn ei Blodau am y gwaith caled maen nhw’n ei wneud ar safle mor bwysig i’r Rhyl, o flwyddyn i flwyddyn. Mae eu hymrwymiad a'u hymroddiad i’r Gerddi Botaneg yn sicrhau bod darn hanfodol o hanes y dref yn parhau i ffynnu ac maen nhw'n haeddu'r gydnabyddiaeth hon am eu hymdrechion.