Hydref 2025

03/10/2025

Disgyblion Llanelwy yn dysgu am anifail a arferai fod yn gyffredin

Mae disgyblion ysgolion cynradd yn parhau i ddysgu am anifail brodorol a arferai fod yn gyffredin yng Nghymru.

Mae tîm Bioamrywiaeth Cyngor Sir Ddinbych, ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, yn cynnal nifer o sioeau teithiol mewn ysgolion i helpu’r plant i ddysgu mwy am afancod a’u cynefinoedd naturiol.

Mae’r sesiynau hyn, sy’n cael eu cynnal mewn nifer o ysgolion, yn rhan o brosiect cyffredinol cyfredol y tîm Bioamrywiaeth i letya teulu o afancod Ewrasiaidd mewn llecyn caeëdig diogel 24 erw yng Ngwarchodfa Natur Green Gates, fel rhan o gynllun 5 mlynedd.  Yn amodol ar gael trwydded gan Gyfoeth Naturiol Cymru, hwn fyddai’r prosiect cyntaf ar gyfer afancod mewn llecyn caeëdig yng Ngogledd Cymru.

Yn ddiweddar bu’r tîm yn ymweld ag Ysgol Fabanod Llanelwy a rhoddwyd cyflwyniad ar afancod a’u hecoleg, cyn mynd y tu allan i fynd i’r afael ag adeiladu caban gan orffen gyda chreu masgiau afancod a thasgau taflenni lliwio.

 

Comments