Hydref 2025

03/10/2025

Paratoi ar gyfer Storm Amy

Mae'r MET Office wedi cyhoeddi rhybuddion tywydd melyn gan fod disgwyl i Storm Amy ddod â gwynt cryf a glaw trwm i rannau o'r Alban, gogledd-orllewin Lloegr a gogledd Cymru tan dydd Sadwrn (4 Hydref).

Gall tywydd eithafol effeithio ar y rhwydwaith trydan, dyma sut allwch chi baratoi ar gyfer toriad pŵer:

1. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi rif y llinell gymorth genedlaethol ar gyfer argyfyngau, sef 105 – beth am roi’r rhif ar yr oergell neu ei arbed fel rhif cyswllt ar eich ffôn symudol? Rhowch wybod am unrhyw doriad pŵer ar unwaith a byddwn ni’n anfon negeseuon testun neu’n gadael neges i chi gyda’r wybodaeth ddiweddaraf tra bydd ein peirianwyr yn ceisio adfer y pŵer. 

2. Sicrhewch fod gennych chi dortsh batri neu dortsh troi â llaw wedi ei gadw mewn man hwylus er mwyn i chi allu edrych ar y bocs ffiws a mynd o un ystafell i'r llall yn ddiogel. 

3. Byddwch yn wyliadwrus o linellau pŵer sydd wedi syrthio, efallai eu bod nhw wedi syrthio oherwydd eira trwm felly byddwch yn ofalus wrth fentro allan o’ch cartrefi.  Dylech chi gymryd bod trydan yn fyw ynddynt bob amser, a rhowch wybod amdanynt ar unwaith drwy ffonio 105. 

4. Cadwch eich ffôn symudol wedi’i wefru’n llawn– bydd hyn yn eich galluogi i ffonio am gymorth os oes angen. Efallai ei bod hi’n syniad cael ffôn analog hefyd, gan nad yw hwn yn rhedeg oddi ar y prif gyflenwad trydan. 

5. Cadwch y gwres yn y tŷ – os ydych chi’n cael toriad pŵer, mae’n bosibl na fydd eich gwres chi’n gweithio felly gwnewch yn siŵr bod gennych chi flancedi ychwanegol ger llaw a chaewch y ffenestri, y bleindiau, a’r llenni er mwyn cadw'r gwres yn y tŷ. 

Mae gennym ni Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth ar gyfer cwsmeriaid fydd angen cymorth ychwanegol yn ystod toriad trydan. Rhagor o wybodaeth ar gael yma. 

Cliciwch yma i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am doriadau trydan yn eich ardal chi, neu ewch i’n tudalen X/Trydar @spenergynetwork. 

Comments