30/04/2026
Datblygiadau diweddaraf Parc Glan yr Afon wedi'u cwblhau

Mae gwaith i helpu i wella a datblygu iechyd a lles ar hyd Parc Glan yr Afon yn Llangollen wedi’i gwblhau.
Gwasanaethau Stryd Cyngor Sir Ddinbych sy’n cydlynu’r gwaith â chyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Daw'r datblygiad diweddaraf hwn o ganlyniad i waith sydd eisoes wedi'i wneud yn y parc dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gan dimau eraill y cyngor, sy'n cynnwys creu cwrs golff mini naw twll a gosod offer chwarae.
Mae’r Gwasanaethau Stryd wedi cwblhau’r cam diweddaraf hwn o’r gwaith i wella’r parc er budd pobl leol ac ymwelwyr.
Yn rhan o’r datblygiad, gosodwyd ramp newydd o faes parcio Aldi i ardal y Parc Sglefrio/Llecyn Gemau Amlddefnydd i wella hygyrchedd yr ardal hon i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac unigolion eraill ag anghenion hygyrchedd mwy, a gosod dau lwybr â ramp arall i helpu i wella hygyrchedd o amgylch y parc.
Mae’r gwaith hefyd wedi cynnwys ychwanegu ffens wrth ymyl yr hen ardal chwarae i blant i ddiogelu'r rhan hon yn well, a gosodwyd giât mynediad ychwanegol i’r parc ar ochr yr afon.
Mae'r prosiect wedi ychwanegu campfa awyr agored at y safle sydd â saith eitem o offer i alluogi defnyddwyr i wneud ymarfer corff wrth edrych dros yr afon. Yn ogystal â hyn, mae dwy fainc bicnic hygyrch wedi'u gosod yn yr ardal hon ynghyd â sylfeini concrit i sicrhau ei bod yn rhwydd i gadeiriau olwyn fynd atynt.
Dywedodd Paul Jackson, Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd: “Rydym ni’n falch iawn o fod wedi cwblhau’r gwaith hwn ym Mharc Glan yr Afon yn Llangollen, diolch i’r cyllid y bu i’r Gwasanaethau Stryd allu cael gafael arno.”
"Bydd y datblygiad diweddaraf hwn yn gwella ardaloedd eraill sydd eisoes wedi'u gwella ym Mharc Glan yr Afon ymhellach i gynyddu proffil y rhan bwysig hon o'r dref er budd trigolion ac unigolion sy'n ymweld â Llangollen."
