Mai 2026

11/05/2026

Wythnos blodau gwyllt yn blodeuo y mis hwn

Ydych chi erioed wedi bod eisiau dysgu sut mae blodau gwyllt o fudd i anifeiliaid a bodau dynol? 

Bydd cyfres o ffeithiau am flodau gwyllt ar gael i drigolion ar draws y sir yr hanner tymor hwn wrth i’r Wythnos Blodau Gwyllt ddychwelyd unwaith eto.

Yn ystod yr wythnos, mae teithiau cerdded dolydd blodau gwyllt wedi’u cynllunio ar draws Sir Ddinbych, er mwyn helpu i ddeall pwysigrwydd y cynefin ar gyfer cefnogi rhywogaethau o flodau gwyllt, darparu bwyd i drychfilod a phryfed peillio a darparu ffynhonnell fwyd i anifeiliaid mwy oroesi.

Mae hefyd yn gyfle i weld sut mae’r dolydd o fudd i gymunedau’r sir drwy helpu i oeri’r tir, er enghraifft a gweithredu fel rhwystr yn erbyn llifogydd.

Bydd digwyddiadau eraill yn ystod yr wythnos yn edrych ar yr anifeiliaid sydd angen y dolydd i oroesi, megis gwenoliaid, ystlumod a gwyfynod.

Mae cyfle i ddysgu sut mae bywyd gwyllt lleol yn helpu dolydd i oroesi drwy ymweld â Phlanhigfa Goed y Cyngor yn Llanelwy.

Sefydlodd Cyngor Sir Ddinbych y Prosiect Dolydd Blodau Gwyllt yn 2019 ac mae bellach yn cynnwys tua 60 o erwau o ddolydd blodau gwyllt cynhenid sy’n creu cynefinoedd i warchod a chynnal byd natur yn lleol a hybu lles ein cymunedau ledled y sir.

Mae’n cael ei ariannu hefyd gan Lywodraeth Cymru, drwy raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Yn nhymor 2025, gwelwyd tegeirianau’n tyfu am y tro cyntaf erioed mewn nifer o ddolydd blodau gwyllt ledled y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a’r Cefnogwr Bioamrywiaeth:“Mae ein Tîm Bioamrywiaeth yn edrych ymlaen yn fawr at helpu unigolion o bob oed i ddysgu mwy am y prosiect pwysig hwn a’r buddion a ddaw yn ei sgil ar gyfer natur a chymunedau yn ystod yr wythnos.

“Rydym wedi colli bron i 97 y cant o ddolydd blodau gwyllt ar hyd a lled y DU ers y 1930au, felly mae’r gwaith hwn yn hanfodol wrth helpu i adfer cynefinoedd sydd wedi cael eu heffeithio’n ddifrifol dros amser. Wrth i flodau gwyllt ddychwelyd, maent yn dod â mwy o amrywiaeth a lliw i gymunedau eu mwynhau, gan ddarparu cefnogaeth hanfodol i beillwyr sy'n chwarae rhan hollbwysig wrth roi bwyd ar ein byrddau.

“Mae’r wythnos hon o ddigwyddiadau yn gyfle gwych i ddysgu mwy am pam mae’r cynefinoedd hyn yn bwysig, a byddwn yn annog unrhyw un sy’n byw’n agos at y dolydd dan sylw i ymuno â’r teithiau cerdded a gweld drostynt eu hunain faint maen nhw’n cyfrannu at natur a lles lleol.”

Edrychwch ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor am yr amserlenni a’r wybodaeth ddiweddaraf.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i unrhyw un o'r digwyddiadau, cliciwch ar y ddolen hon i archebu eich lle.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at biodiversity@denbighshire.gov.uk

Comments