Mai 2026

06/05/2026

Darpariaeth ystafell ddosbarth synhwyraidd newydd yn agor mewn ysgol yn Llanelwy

Mae Ysgol Glan Clwyd wedi gorffen gwaith ar ei hystafell synhwyraidd newydd yn ddiweddar a fydd yn cael ei defnyddio i gefnogi disgyblion gydag ADY (anghenion dysgu ychwanegol).

Mae’r ystafell newydd yn cynnwys tri thaflunydd, sy’n taflunio golygfeydd ar dair wal yn yr ystafell, gan greu profiad hollgynhwysol i’r defnyddwyr.

Ystafell synhwyraidd newydd

Mae bariau golau LED yn rhedeg ar hyd top yr ystafell gan daflunio’r lliw cyfatebol priodol, gan ychwanegu at y profiad hollgynhwysol o fewn yr ystafell ddosbarth newydd.

Mae gan yr ystafell ddosbarth newydd hon y gallu i greu amgylcheddau rhyngweithiol ac ymgysylltiol, y gellir eu teilwra i anghenion unigryw y myfyrwyr, gan ddod ag elfen unigryw i’r ddarpariaeth ADY yn Ysgol Glan Clwyd.

Dechreuodd y gwaith ar y prosiect yn ystod hanner tymor mis Chwefror, gydag addasiadau i’r ystafell bresennol gan gynnwys rhwystro golau lle roedd angen hynny a thynnu drws a oedd yn cysylltu’r ystafell ag ystafell arall. Yn dilyn hynny cafodd yr ystafell ei phaentio a chwblhawyd y gwaith trydanol a’r gwaith o osod y taflunwyr a’r system sŵn.

Rhai o'r golygfeydd

Mae’r ystafell wedi ei lleoli yn ardal Encil, sef yr ardal yn yr ysgol sy’n darparu cefnogaeth gydag ymddygiad a lle mae’r ddarpariaeth ADY.

Mae modd gosod golygfeydd pwrpasol ar y waliau, ac mae tua 20 o olygfeydd ar gael yn fras ar hyn o bryd.

Bydd yr ystafell yn cael ei defnyddio ar gyfer cefnogaeth un i un ond hefyd gall gefnogi sesiynau grŵp bach. Mae hyfforddiant ychwanegol nawr ar y gweill er mwyn i staff allu ehangu’r defnydd o’r ystafell ddosbarth ymhellach.

Un o'r golygfeydd

Dywedodd Geraint Davies, Pennaeth Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Ddinbych:

“Bydd hwn yn ased gwych i’r tîm ADY yn Ysgol Glan Clwyd a bydd yr ystafell ddosbarth hollgynhwysol newydd yn ased gwych i fyfyrwyr.

Dechreuodd y gwaith ar y prosiect hwn yn ystod hanner tymor mis Chwefror ac mae’n wych i weld fod yr ystafell ddosbarth hon nawr wedi’i chwblhau ac yn barod i gael ei defnyddio.”

Dywedodd Sian Alwen, Pennaeth Ysgol Glan Clwyd:

“Mae sicrhau ein bod yn darparu’r gefnogaeth ADY fwyaf blaengar i’n disgyblion yn flaenoriaeth i ni.

Gyda’r tîm addysgu cryf ac ymroddgar yma, mae adnodd fel yr ystafell hon yn cynnig darpariaeth arbenigol a fydd yn helpu grwpiau llai o ddisgyblion ac unigolion i oresgyn heriau.

Rydym yn hynod o ffodus o fod wedi cael y ddarpariaeth hon ac rydym yn hyderus y bydd nifer o ddisgyblion yn gweld y budd yn fuan.”

Comments