Mai 2026

20/05/2026

Adeiladu cefnogaeth ar gyfer Wythnos Blodau Gwyllt

Mae disgyblion cynradd Sir Ddinbych wedi dod at ei gilydd i helpu i feithrin cefnogaeth ar gyfer ymgyrch flynyddol sydd â’r nod o amlygu pwysigrwydd ein dolydd.

Cafodd disgyblion o Ysgol y Faenol ac Ysgol Llanfair DC sesiynau addysg arbennig gan dîm Bioamrywiaeth y Cyngor ar gynefinoedd blodau gwyllt newydd a grëwyd yn ddiweddar yn y ddwy ysgol.

Cynhaliwyd y sesiynau gyda’r plant i ddathlu bod Wythnos Blodau Gwyllt flynyddol Sir Ddinbych yn dychwelyd yn ystod hanner tymor mis Mai.

Bu’r disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgareddau gan gynnwys gêm peillio, gweithgaredd gwe fwyd, helfa pryfaid a buont yn mwynhau dod o hyd i blanhigion ar eu safle i lenwi taflenni bingo blodau gwyllt.

Meddai Ellie Wainwright, swyddog bioamrywiaeth:  “Roedd yn hyfryd gweld pa mor frwdfrydig oedd y plant yn y ddwy ysgol am y safleoedd yr oeddem wedi eu helpu i’w creu yn ddiweddar. Mae mor bwysig iddynt ryngweithio â byd natur a dysgu amdano, er budd eu hiechyd ac iechyd y blaned yn y dyfodol, ac mae eu helpu i ddysgu yn ffordd wych o ddechrau ein digwyddiadau ar gyfer Wythnos Blodau Gwyllt Sir Ddinbych.”

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:  “Mae’r plant yn y ddwy ysgol wedi gweithio’n galed iawn i helpu natur ar eu safleoedd trwy blannu coed a blodau gwyllt gyda’n swyddogion yn ddiweddar. Mae’n addas felly y dylent ein helpu i ddechrau dathlu pa mor bwysig yw cynefinoedd dolydd ar gyfer natur a chymunedau lleol.”

Edrychwch ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor am yr amserlenni a’r wybodaeth ddiweddaraf am Wythnos Blodau Gwyllt..

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i unrhyw un o'r digwyddiadau, cliciwch ar y ddolen hon i archebu eich lle.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at biodiversity@denbighshire.gov.uk

Comments