29/05/2026
Cartref Gofal Dolwen yn cael sgoriau 'da' yn adroddiad arolygu AGC
Mae adroddiad arolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar Gartref Gofal preswyl Dolwen yn Ninbych wedi cael sgoriau ‘da’ ym mhob un o’r pedwar maen prawf.
Cafodd y cartref gofal, sy'n cael ei redeg gan Gyngor Sir Dinbych, ei arolygiad mwyaf diweddar ym mis Rhagfyr.

Nododd crynodeb yr arolwg fod staff yn “darparu gofal a chymorth o ansawdd da, gan annog y bobl i gynnal cymaint o annibyniaeth â phosibl” ac yr oedd yn cydnabod bod pobl “yn byw mewn gwasanaeth sy’n gartrefol ac yn gyfforddus ac yn darparu mynediad da at gyfarpar arbenigol sy’n diwallu eu hanghenion.” Roedd crynodeb yr arolwg hefyd yn nodi: “Mae'r rheolwr a'r unigolyn cyfrifol yn hawdd mynd atynt ac yn gyfeillgar, ac maent yn sicrhau eu bod yn gwrando ar y bobl ac yn eu trin ag urddas a pharch.”
O ran lles, sy'n un o'r pedwar maen prawf, cafodd y cartref gofal sgôr 'da', ac yr oedd yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod preswylwyr "yn cael cynnig dewisiadau cyson o ran gweithgareddau dyddiol ac maent yn cael cyfleoedd i gyrraedd eu potensial drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon" a bod y cartref "yn cynnig rhaglen amrywiol o weithgareddau".
Cafodd amgylchedd diogelu’r cartref ei ganmol hefyd, ac yr oedd yr adroddiad yn nodi bod preswylwyr “yn teimlo'n ddiogel o wybod na all unrhyw un gael mynediad i'r adeilad heb i'r staff gofal wybod pwy ydynt” a’u bod nhw hefyd “yn teimlo'n hyderus ac yn gyfforddus i godi unrhyw broblemau neu bryderon gyda'r staff gofal”.
Roedd yr adran hon yn yr adroddiad hefyd yn canmol natur agos-atoch y staff, a nododd yr arolygwyr bod “y rheolwr yn hawdd mynd ato, a nododd un person nad oes byth angen iddo siarad â'r rheolwr gan fod y staff gofal yn ymdrin yn effeithiol ag unrhyw broblemau sydd ganddo.”
Ar nodyn tebyg, nododd yr adroddiad fod ymwelwyr fel teulu neu ffrindiau preswylwyr wedi cael “croeso” a bod preswylwyr yn cael eu “hannog i ddatblygu ac i gynnal cydberthnasau sy'n bodoli eisoes â theulu, ffrindiau a phobl sy'n bwysig yn eu bywydau gymaint â phosib.”
Aeth yn ei flaen i nodi “dywedodd y perthnasau y gwnaethom siarad â nhw eu bod yn fodlon ar y gwasanaeth gan ddweud eu bod yn cael gwybodaeth reolaidd.”
Cafodd y gwasanaeth ei ganmol hefyd am gyflawni Cynnig Gweithredol Cymru, a disgrifiwyd bod y gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymraeg wedi’i “integreiddio'n llawn i'r gwasanaeth.”
O ran gofal a chymorth, cafodd y cartref gofal sgôr 'da'.
Nododd yr adroddiad fod “cynlluniau personol y bobl yn seiliedig ar gryfderau ac yn amlinellu sut y dylai'r staff eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau llesiant” sy’n cynnwys proffiliau "un dudalen manwl ar waith sy'n cofnodi eu hoff bethau, eu cas bethau, a gwybodaeth werthfawr i'r staff gofal wybod amdanynt yn glir.” Roedd yr adroddiad yn canmol y ffordd yr oedd y cartrefi gofal yn trin ac yn rhoi meddyginiaeth, a nododd bod “cofnod clir i olrhain effeithiolrwydd y feddyginiaeth hon ac unrhyw sgîl-effeithiau.”
Wrth asesu'r amgylchedd yn y cartref gofal, a gafodd sgôr 'da' hefyd, nododd yr adroddiad fod preswylwyr yn “byw mewn gwasanaeth cartrefol a chyfforddus ac mae amrywiaeth o ardaloedd gwahanol ar gael iddynt dreulio amser ar eu pen eu hunain, cymdeithasu neu ddiddanu ymwelwyr."
Gwnaeth yr adroddiad hefyd ganmol hygyrchedd yn yr ardal hon, a’r “amrywiaeth o gyfarpar arbenigol ar gael i'r bobl.” Aeth ymlaen i gynnwys canllawiau drwy’r cartref, yn ogystal â diogelwch yr adeilad ei hun.
Cafodd arweinyddiaeth a rheolaeth yn y cartref gofal sgôr ‘da’, ac mae’r adroddiad yn canmol y “prosesau archwilio effeithiol” o ran ansawdd y gofal. Tynnodd yr adroddiad sylw at y ffaith bod prosesau "dethol a fetio llym wrth gyflogi staff er mwyn sicrhau bod pob aelod o'r staff yn gymwysedig ac yn ddibynadwy.”
Aeth ymlaen i nodi bod staff wedi dweud eu bod nhw’n “teimlo eu bod yn cael eu cefnogi'n dda yn eu rolau a bod aelodau'r tîm rheoli yn hawdd mynd atynt ac yn rhagweithiol a bod ganddynt hyder ynddynt.”
Dywedodd Ann Lloyd, Pennaeth Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Oedolion a Digartrefedd:
“Mae staff cartref gofal Dolwen yn gweithio mor galed, ac rwy’n falch o weld hyn yn cael ei gydnabod yn yr adroddiad arolygu diweddaraf hwn gan AGC.”
Mae’n amlwg o'r adroddiad hwn pa mor gartrefol mae'r staff yn gwneud y cartref gofal hwn, a pha mor dda yw'r berthynas rhwng y staff a'r preswylwyr. Hoffwn ddiolch i’r staff sy’n gweithio’n ddiflino bob dydd am eu hymdrechion, sydd wedi’u cydnabod yn yr adroddiad hwn.”