11/05/2026
Cyflogwyr Sir Ddinbych yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn cynllun peilot newydd i gyflogwyr cynhwysol
Mae yna gyfle i gyflogwyr ledled Sir Ddinbych i gymryd rhan mewn menter newydd sydd wedi’i ariannu’n llawn, wedi’i ddylunio i helpu busnesau i ddenu, recriwtio a chadw ystod fwy eang o dalent.
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio bellach wedi lansio ei Gynllun Peilot ‘Trailblazer’ i Gyflogwyr, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau lleol i greu gweithleoedd mwy cynhwysol a chynaliadwy. Prif nod y gefnogaeth yma i gyflogwyr yw helpu i leihau anweithgarwch economaidd yn Sir Ddinbych.

Mae’r cynllun Peilot yn gyfle ymarferol i nifer fechan o gyflogwyr gael cefnogaeth wedi’i theilwra gan arbenigwr hurio proffesiynol. Y nod yw helpu busnesau i gryfhau eu harferion recriwtio a sefydlu gweithwyr newydd tra’n creu cyfleoedd sydd yn fwy hygyrch i unigolion allai fod yn wynebu rhwystrau i gyflogaeth, yn cynnwys pobl sydd ag anableddau, cyflyrau iechyd neu gyfrifoldebau gofalu.
Fe ddaw’r fenter newydd ar adeg pan mae nifer o gyflogwyr yn wynebu heriau parhaus o ran denu a chadw’r bobl gywir. Trwy fabwysiadu dulliau cynhwysol, gall busnesau gael mynediad at garfan ehangach o dalent sy’n aml yn cael eu tanddefnyddio, gwella graddfeydd cadw staff, a lleihau costau recriwtio.
Bydd cyflogwyr sy’n cymryd rhan yn:
- Derbyn canllaw ymarferol ar recriwtio a dewis cynhwysol
- Cefnogaeth ac adnoddau wedi’u teilwra i ddenu a hurio ystod fwy amrywiol o ymgeiswyr
- Cyngor ar gefnogi gweithwyr sydd ag anghenion ychwanegol
- Adnoddau y gellir eu defnyddio mewn gweithrediadau o ddydd i ddydd
- Cydnabyddiaeth fel Cyflogwr Cynhwysol Sir Ddinbych yn Gweithio ardystiedig
Yn ogystal â chefnogi busnesau unigol, nod y rhaglen yw cryfhau’r economi leol drwy helpu mwy o breswylwyr mewn i gyflogaeth gynaliadwy.
Sir Ddinbych oedd un o dri Awdurdod Lleol a ddewiswyd i gymryd rhan yn rhaglen ehangach ‘Trailblazer’ Llywodraeth Cymru, sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag anweithgarwch economaidd a phrofi dulliau newydd ac arloesol o gynhwysiant yn y gweithle.
Meddai Rheolwr Gwasanaeth Cyflogaeth Strategol, Melanie Evans, yn Sir Ddinbych yn Gweithio, sy’n rhan o Gyngor Sir Ddinbych:
“Mae’r cynllun peilot yn ymwneud â mwy na recriwtio, mae’n ymwneud â chreu economi leol gryfach, tecach. Trwy gefnogi cyflogwyr i fod yn fwy cynhwysol, gallwn helpu i godi safonau byw, gwella iechyd a lles, lleihau tlodi plant, a chreu cyfleoedd y gall pawb yn Sir Ddinbych elwa ohonynt. Dyma gyfle gwirioneddol i fusnesau lleol fod yn rhan o newid ystyrlon, hirdymor.”
Meddai’r Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Rydym ni’n helpu busnesau Sir Ddinbych i benodi pobl leol sydd wedi cael eu dal yn ôl oherwydd anabledd, problemau iechyd, neu ddyletswyddau gofal. Mae pawb ar eu hennill - mae cyflogwyr yn llenwi swyddi gyda phobl ysbrydoledig, ac mae preswylwyr yn cael y gefnogaeth a chyfleoedd sydd ei angen arnynt i lwyddo yn y gwaith.”
Bydd cyfanswm o 20 cyflogwr yn cael eu cefnogi drwy’r cynllun peilot ac mae’r garfan gyntaf wedi’i gyfyngu i 5 swydd. Bydd y grŵp cychwynnol yma’n dechrau ar ddydd Llun 1 Mehefin 2026.
Fe anogir cyflogwyr lleol sydd â diddordeb i gymryd rhan i gofrestru drwy gysylltu â Rheolwr Prosiect, Dawn Johnson, drwy e-bostio dawn.johnson@sirddinbych.gov.uk erbyn dydd Gwener, 29 Mai 2026.