Mehefin 2025

13/06/2025

Dyfrgwn wedi’u gweld mewn afon yn Llanelwy

Mae anifail dŵr wedi cael ei olrhain yn un o afonydd Sir Ddinbych.

Llun gan Joel Walley
Llun gan Joel Walley

Mae ein tîm Bioamrywiaeth wedi lansio cyfres o arolygon i ganfod sut mae Dyfrgwn yn ffynnu ledled y sir.

Mae dyfrgwn yn rhywogaeth a ddiogelir yn y DU ac mae angen rhoi blaenoriaeth i’w cefnogi yn Sir Ddinbych. Gwyddom eu bod yn hoff o systemau dŵr fel afonydd, ffosydd, nentydd, pyllau a hyd yn oed aberoedd ac ardaloedd arfordirol.

Gwyddom eu bod yn hela am fwyd dan ddŵr ac mai pysgod yw eu prif ymborth.

Wrth gynnal arolygon o’r Afon Elwy ger Llanelwy, ar dir sy’n eiddo i’r ffermwr Samantha Kendrick,mae’r Tîm Bioamrywiaeth wedi dod o hyd i arwyddion o Ddyfrgwn yn byw ar hyd glannau’r afon.

Eglurodd Liam Blazey, Uwch Swyddog Bioamrywiaeth: “Daethom o hyd i arwyddion baw ac olion traed bod dyfrgwn yn defnyddio’r rhan hon o’r Afon Elwy sy’n galonogol iawn.

“Bydd y data a’r canfyddiadau a gasglwn fel tîm yn cael eu hychwanegu at yr Arolwg Dyfrgwn cenedlaethol a byddwn yn dal ymlaen â’r gwaith hwn i ddod o hyd i’r anifail ar draws nifer o safleoedd eraill yn y sir er mwyn cael darlun o sut mae’r anifail yn ffynnu yn Sir Ddinbych.“

Yn y misoedd nesaf, bydd y Tîm Bioamrywiaeth yn cydweithio â'u cyfatebwyr yng Nghyngor Sir y Fflint i gynnal mwy o arolygon dyfrgwn gyda'i gilydd er mwyn cael syniad o sut mae poblogaethau anifeiliaid yn defnyddio dyfrffyrdd ar draws y ddwy sir.

 

 

Comments