02/06/2025
								Mis Ymwybyddiaeth Sgamiau 2025
								
Mae adran Safonau Masnach Sir Ddinbych wedi gosod blychau ‘sgamnesti’ mewn Siopau Un Alwad ledled y Sir lle gellir cael gwared ar bost sgam/niwsans yn ddiogel.
Bydd swyddogion a'r Tîm Sgamiau Cenedlaethol yn archwilio pob llythyr a gyflwynir i helpu i atal eraill rhag dioddef o sgamiau post, sydd fel arfer yn cael eu hanfon o gyfeiriadau rhyngwladol.
Mae'r ymgyrch yn rhan o Fis Ymwybyddiaeth Sgamiau i helpu pobl i osgoi dioddef sgamiau, yn enwedig yr henoed a'r rhai sy'n agored i niwed. Bydd y blychau ar gael tan 1 Gorffennaf.