09/12/2025
Cwrdd â'r awduron yn Ffair Lyfrau Llyfrgell Dinbych
Mae Llyfrgelloedd Sir Ddinbych yn falch o groesawu rhestr wych o awduron lleol i Lyfrgell Dinbych ar ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr rhwng 10am a 11.30am ar gyfer Ffair Lyfrau Nadolig.
Bydd cyfle i sgwrsio gyda’r awduron am eu gwaith dros baned a mins peis, yn ogystal â phrynu copïau wedi’u llofnodi o’u llyfrau.
Ymhlith yr awduron mae:
- Eryl Jones, y mae ei nofel gyntaf Operation Auger yn stori gyffro wedi’i gosod yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
- Awdur Linen and Rooks yw Sharon Tyers, nofel sy’n adrodd hanes tair menyw sy’n dod i ‘rannu’ tŷ yn Ninbych. Mae’r stori’n dechrau yn Lleweni y tu allan i’r dref, lle adeiladwyd Gwaith Gwenwyno mewn rhywlen yn y 1800au ar gyfer cannu'r lliain a gludwyd drosodd o Iwerddon, a dyma sut y cafodd y llyfr ei deitl.
- Awdur Bobby’s Surprise yw Vanessa Kalities, llyfr yn cynnwys lluniau hyfryd yn adrodd hanes Bobby sy’n dod o hyd i hud arbennig wrth fynd ar bicnic gyda’i fam a’i chwaer, Helen.
- Mae Samantha Maxwell, awdur o Wrecsam, wedi ysgrifennu tair teitl ysbrydoledig – CP Isn’t Me, Disabling Ableism a Silenced – tri llyfr grymus sy’n herio canfyddiadau ac yn dathlu gwydnwch. Yn CP Isn’t Me, mae Samantha yn rhannu ei phrofiadau personol o fyw gyda pharlys yr ymennydd ysgafn, gyda’r nod o dorri’r stigma sy’n gysylltiedig ag anabledd.
- Mae nofel Gene Moran, Running on the Spectrum, yn rhannol hunangofiannol ac yn adrodd hanes Tom Mallalieu yn Ysgol Abaty, ysgol arbennig yng Ngogledd Cymru ar gyfer disgyblion uwchradd ag anghenion dysgu arbennig ac anawsterau ymddygiad.
- Mae Graham Wynne Edwards wedi ysgrifennu bywgraffiad hynod ddiddorol o Richard Jones Berwyn, a oedd yn rhan o’r grŵp cyntaf i deithio ar y Mimosa ac a chwaraeodd ran amlwg yn sefydlu’r Wladfa ym Mhatagonia.
Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:
“Rydym yn falch iawn o groesawu grŵp mor dalentog o awduron lleol i Ffair Lyfrau Nadolig Llyfrgell Dinbych. Mae ein llyfrgelloedd yn chwarae rhan bwysig wrth ddathlu creadigrwydd, ac mae digwyddiadau fel hyn yn amlygu’r straeon cyfoethog sydd gennym yma yn Sir Ddinbych. Byddwn yn annog trigolion i ymuno â ni i dderbyn croeso cynnes Nadoligaidd.”
Mae hyn yn gyfle gwych i gwrdd â rhai o’n hawduron mwyaf talentog a chasglu ychydig o anrhegion Nadolig perffaith i ddarllenwyr yn eich bywyd!
Mae rhagor o wybodaeth am Lyfrgell Dinbych a’r Siop Un Alwad ar ein gwefan.