Gorffennaf 2026

30/06/2026

Gwahoddir plant i ‘Gyfrolau’n Canu’ gyda Sialens Ddarllen yr Haf 2026

Mae plant ledled Sir Ddinbych yn cael eu hannog i ymuno â Sialens Ddarllen yr Haf 2026 eleni, ‘Cyfrolau’n Canu’, sy’n cael ei lansio mewn llyfrgelloedd lleol ddydd Sadwrn, 4 Gorffennaf.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn annog plant rhwng 4 ac 11 oed i barhau i ddarllen yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae thema eleni, ‘Cyfrolau’n Canu’, yn dathlu sut y gall straeon, cerddoriaeth a chreadigrwydd ddod â phobl ynghyd, gan ysbrydoli plant i ddarganfod llyfrau newydd, archwilio diwylliannau gwahanol a mynegi eu hunain drwy ddarllen.

Gall plant sy’n cymryd rhan, fenthyg llyfrau o’u llyfrgell leol, casglu gwobrau wrth iddynt symud ymlaen drwy’r her a derbyn tystysgrif ar ôl ei chwblhau. Mae’r her yn helpu i gynnal sgiliau darllen dros wyliau’r haf tra’n annog cariad gydol oes at lyfrau a dysgu.

Bydd llyfrgelloedd ledled Sir Ddinbych yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau drwy gydol gwyliau’r haf i gefnogi’r her a darparu cyfleoedd hwyliog i blant a theuluoedd gymryd rhan. Bydd un o’r gweithgareddau hynny’n cynnwys gweithdy bît-bocsio gyda’r artist hip-hop Cymreig, Mr Phormula.

Dywedodd Debbie Owens, Prif Lyfrgellydd Llyfrgelloedd Sir Ddinbych:

"Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd wych o gadw plant yn ymddiddori mewn darllen yn ystod gwyliau’r ysgol tra’n cael hwyl ar yr un pryd. Mae thema eleni, ‘Cyfrolau’n Canu’, yn ymwneud â chreadigrwydd, rhythm a mynegiant personol, ac rydym yn edrych ymlaen at weld plant yn darganfod straeon newydd ac yn mwynhau popeth sydd gan ein llyfrgelloedd i’w gynnig.

"P’un a ydynt yn hoff o straeon antur neu straeon tylwyth teg, mae rhywbeth i bob plentyn yn eu llyfrgell leol. Byddem yn annog teuluoedd i gofrestru ac ymuno â ni ar gyfer haf gwych arall o ddarllen."

Dywedodd y Cynghorydd Emrys Wynne, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth:

"Mae cerddoriaeth yn chwarae rhan bwysig yn fy mywyd, a bydd ‘Cyfrolau’n Canu’ eleni yn ffordd hwyliog, gan ddefnyddio dychymug o helpu i ysbrydoli eich plant i wneud y cysylltiad rhwng caneuon a darllen, i godi llyfr, datblygu eu hyder a darganfod diddordebau newydd drwy gydol yr haf.

"Byddwn yn annog teuluoedd ledled Sir Ddinbych i gymryd rhan a manteisio i’r eithaf ar yr adnoddau a’r gweithgareddau gwych sydd ar gael drwy ein llyfrgelloedd."

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio mewn llyfrgelloedd ledled Sir Ddinbych ddydd Sadwrn, 4 Gorffennaf, ac mae’n rhan hynod boblogaidd o raglen haf y llyfrgelloedd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i’ch llyfrgell leol a siaradwch ag aelod o staff ynghylch sut i gymryd rhan.

Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am ein llyfrgelloedd, ewch i'n gwefan.  

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn foment allweddol yn Flwyddyn Genedlaethol Darllen, sef menter genedlaethol drawsnewidiol a arweinir gan y llywodraeth, a gynlluniwyd i ailgynnau diwylliant o ddarllen er pleser ledled y DU.

Comments