08/09/2026
Arweinydd a Chabinet Newydd i Sir Ddinbych
Mewn cyfarfod cyngor llawn yn Neuadd y Sir Rhuthun heddiw (dydd Mawrth, 8 Medi) etholwyd y Cynghorydd Hugh Evans yn Arweinydd newydd ar yr awdurdod.
Mae'r Cynghorydd Evans (Annibynnol – Llanfair Dyffryn Clwyd / Gwyddelwern) sydd wedi bod yn gynghorydd ers 2004 ac yn Arweinydd rhwng 2007 a 2022, hefyd wedi penodi'r Cabinet newydd.
Yn dilyn ei etholiad dywedodd y Cynghorydd Evans, “Nid ydym yn edrych yn ôl heddiw, ond yn hytrach yn gosod sylfeini cryf ar gyfer y dyfodol ac ymdrin â'r heriau sy'n wynebu ein sir. Dros yr wythnos ddiwethaf, rwyf wedi cyfarfod â'r Prif Weithredwr ac uwch swyddogion i gael dealltwriaeth glir o'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau. Er bod gennym lawer o swyddogion ymroddedig a gwasanaethau cryf, rhaid inni gryfhau'r cysylltiad rhwng ein uchelgais strategol a phrofiadau ein trigolion.
“Rwy'n awyddus i greu diwylliant agored a thryloyw a thros y misoedd nesaf, bydd y Cabinet yn canolbwyntio ar dri maes allweddol: y gyllideb, ein rôl fel cyngor, a'n cymunedau a'n diwylliant. Dim ond wyth mis sydd gennym, ond mae llawer y gallwn ei gyflawni. Drwy ganolbwyntio ar y blaenoriaethau hyn, gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chyflawni canlyniadau go iawn, gallwn gryfhau hyder yn y cyngor, darparu gwell eglurder i’r gweithlu a sicrhau bod Sir Ddinbych yn gyngor y gall trigolion a staff fod yn falch ohono.
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi, a diolch i Jason am y gwaith blaenorol y mae'r Cabinet wedi'i wneud. Rydym i gyd yma i'n trigolion. Rydym i gyd yn llysgenhadon dros ein cymunedau."
Yn y cyfamser, mae'r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, (Annibynnol - Rhuthun) wedi'i benodi'n Ddirprwy Arweinydd. Mae'r Cynghorydd Hilditch-Roberts wedi gwasanaethu fel cynghorydd sir ers 2012 ac roedd yn Aelod Arweiniol y Cabinet dros Addysg, Gwasanaethau Plant a'r Iaith Gymraeg rhwng Mai 2017 a Mai 2022. Dywedodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts, "Mae'n anrhydedd enfawr cael fy mhenodi'n Ddirprwy Arweinydd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Hugh a gweddill y Cabinet i adfer ymddiriedaeth a hyder yn y Cyngor, mynd i'r afael â'r heriau sydd o'n blaenau, a chyflawni gwelliannau ystyrlon i gymunedau Sir Ddinbych.
“Er bod y Cynghorydd Evans wedi amlinellu rhai o’n blaenoriaethau allweddol heddiw, bydd y Cabinet yn cydweithio dros yr wythnosau nesaf i gael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa bresennol ac i benderfynu beth fydd ein prif ffocws ar gyfer y misoedd nesaf.”
Yn dilyn ei benodiad, mae'r Arweinydd newydd hefyd wedi cyhoeddi'r Cabinet newydd a'r meysydd portffolio diwygiedig:
Y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Dwf Economaidd, Llywodraethu Corfforaethol a Mynd i'r Afael ag Amddifadedd
Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth
Y Cynghorydd Anton Sampson, Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi a Chydraddoldeb
Y Cynghorydd Will Price, Aelod Arweiniol dros Gynllunio a Chefn Gwlad
Y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams, Aelod Arweiniol dros Dai a'r Cynllun Datblygu Lleol
Y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth
Y Cynghorydd Brian Jones, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Asedau a'r Economi Leol
Y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chymunedau. Bydd y Cynghorydd Feeley yn parhau fel Cadeirydd yr awdurdod i gwblhau ei dyletswyddau dinesig gan ymuno â'r cabinet ar 21 Medi.