Medi 2026

17/09/2026

Diwrnod Agored Recriwtio Gofal Cymdeithasol i gael ei gynnal yn y Rhyl

Mae tîm Gofal Cymdeithasol Cyngor Sir Ddinbych yn gwahodd y rheiny sy’n chwilio am yrfa ym maes Gofal Cymdeithasol i ddiwrnod agored recriwtio i gael gwybodaeth am yr amrywiaeth o swyddi gwerth chweil sydd ar gael yn y sector.

Bydd y diwrnod agored yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Gofal Dydd Hafan Deg yn y Rhyl ar 25 Medi. Mae croeso i fynychwyr alw heibio ar unrhyw amser rhwng 9am a 12pm.

Hafan Deg, Rhyl

Bydd y digwyddiad galw heibio’n siawns i fynychwyr ddysgu am y swyddi gofal cymdeithasol gwerth chweil sydd ar gael, siarad gyda staff a rheolwyr, cael cyngor am wneud ceisiadau, a darganfod mwy am y buddion o weithio i’r cyngor.

Mae’r sesiwn ar agor i bawb, p’un a ydynt eisoes yn gweithio ym maes cefnogaeth gymunedol, yn ystyried newid gyrfa, neu’n syml yn teimlo’n angerddol am wneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol.

Nid oes angen archebu lle, ond anogir mynychwyr i gofrestru o flaen llaw trwy Eventbrite er mwyn helpu’r tîm i gael syniad cywir o nifer y mynychwyr o flaen llaw.

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Dirprwy Arweinydd y Cyngor:

“Mae’r diwrnod agored hwn yn gyfle gwych i bobl ddarganfod mwy am yr ystod eang o swyddi gwerth chweil sydd ar gael gyda thîm gofal cymdeithasol y cyngor.

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â phobl sydd â phrofiad ym maes gofal neu gefnogaeth gymunedol, yn ogystal â’r rheiny sydd efallai’n ystyried llwybr gyrfa newydd. Gall mynychwyr alw heibio ar unrhyw adeg trwy gydol y digwyddiad a bydd modd iddyn nhw siarad yn uniongyrchol â’n timau, gofyn cwestiynau a chael arweiniad ar y broses ymgeisio a’r gefnogaeth sydd ar gael i staff.

Gall gweithio yn y sector gofal cymdeithasol roi llawer iawn o foddhad, ac mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i’r rheiny sydd â diddordeb i gymryd y cam cyntaf a dysgu mwy am sut y gallant wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl leol.”

Gweler y ddolen i archebu lle.

Comments