21/11/2025
Mae Gwaith yn Gweithio: Cefnogi preswylwyr Sir Ddinbych i gael cyflogaeth â chymorth
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio – gwasanaeth sy’n cael ei redeg gan Gyngor Sir Ddinbych – wedi lansio ymgyrch newydd o’r enw Mae Gwaith yn Gweithio, i helpu preswylwyr lleol i gymryd eu camau cyntaf at waith neu ddychwelyd ar ôl cyfnod i ffwrdd, gyda chefnogaeth am ddim wedi ei theilwra.
Bwriad Sir Ddinbych yn Gweithio yw dangos sut y gall gwaith drawsnewid bywydau pobl, yn arbennig y rheiny sy’n economaidd anweithgar o ganlyniad i gyflyrau iechyd hirdymor, anableddau neu gyfrifoldebau gofalu, drwy gynnig buddion personol, cymdeithasol ac emosiynol.
Wrth wraidd y neges mae’r ddealltwriaeth bod cyflogaeth yn ffordd o roi hwb i’ch iechyd, hyder a lles, a, diolch i gyflogwyr lleol yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych, mae mwy o weithleoedd cefnogol a chynhwysol yn cael eu creu i helpu preswylwyr lleol i ffynnu. Mae’r ymgyrch yn rhan o ymdrech ehangach i wneud cyflogaeth yn fwy cynhwysol a hygyrch ledled Sir Ddinbych.
Pa un a fo’n swydd gyntaf, rôl dros dro, neu’n swydd wirfoddol, mae pob cyfle’n cyfrannu at fwy o sefydlogrwydd, lles a thwf personol. Mae cyflogaeth hefyd yn gosod esiampl gadarnhaol o fewn teuluoedd a chymunedau, gan atgyfnerthu manteision ehangach bod mewn gwaith.
Tîm Sir Ddinbych yn Gweithio yn arwyddo'r gair 'cysylltu' [Iaith Arwyddion Prydain]
Dywed Dru, cyfranogwr llwyddiannus o Sir Ddinbych yn Gweithio:
“Fe wnaeth fy ymgynghorydd fy helpu i fagu hyder, ac mae’n fwy buddiol rŵan gan fy mod yn gallu mentro mwy … Yn y dechrau roeddwn yn nerfus iawn ac mi ddois o’m cragen ymhen amser. Gyda Sir Ddinbych yn Gweithio wrth fy ochr, rydw i’n barod i fynd … Mae gwaith yn rhan o fy nhrefn arferol rŵan ac allaf i ddim aros i fynd yno bob dydd.”
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig cefnogaeth un i un i oresgyn yr heriau y gall pobl eu hwynebu wrth gael cyflogaeth, ac mae’n darparu cefnogaeth drwy gydol y siwrnai – o chwilio am swydd ac ysgrifennu CV, i baratoi ar gyfer cyfweliadau ac arweiniad mewn cyflogaeth. Canolbwyntir ar ddatblygu dyfodol sy’n gweithio i bawb.
Ydych chi’n barod i gymryd y cam nesaf? Rydym yma i’ch helpu i wneud iddo ddigwydd.
Ffoniwch ni ar 01745 331438 / 07342 070635 neu ewch i www.denbighshire.gov.uk/cy/swyddi-a-gweithwyr/sir-ddinbych-yn-gweithio/sir-ddinbych-yn-gweithio.aspx i gychwyn y siwrnai.
Nodyn:
Mae Sir Ddinbych yn defnyddio dulliau creadigol a hygyrch i gyrraedd y rheiny nad ydynt ar-lein, rhai sydd wedi ymddieithrio, neu bobl sy’n wynebu rhwystrau rhag gweithio. Fe’i hategir gan gynllun peilot Trailblazer Llywodraeth y DU, ac mae’n dod â thimau’r Cyngor a phartneriaid ynghyd i gynnig cymorth wedi ei bersonoleiddio – o feithrin hyder a sgiliau i ganfod y swydd iawn ac aros ynddi.
Gwybodaeth am Sir Ddinbych yn Gweithio:
Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cael ei ariannu’n rhannol drwy Raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi’r bobl sy’n wynebu’r anfantais fwyaf yn y farchnad lafur i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gwaith.
Ariennir Sir Ddinbych yn Gweithio yn rhannol gan Lywodraeth y DU.