llais y sir

Addysg

Penodi Pennaeth Ysgol Gatholig Crist y Gair

Cadarnhawyd mai Amanda Preston yw Pennaeth newydd Ysgol Gatholig Crist y Gair 3-16 yn y Rhyl.

Bydd yr ysgol, sy’n rhan o Esgobaeth Wrecsam, yn agor ei drysau ym mis Medi, mewn adeilad newydd sbon, ac mae’r penodiad yn gam sylweddol ymlaen.

Mae’r rhaglen adeiladu wedi bod yn datblygu’n dda, ac mae’n parhau i fod ar amser.

Mae’r ysgol, a fydd yn gartref i 420 disgybl llawn amser rhwng 3 ac 11 mlwydd oed a 500 o ddisgyblion rhwng 11 ac 16 mlwydd oed, yn cael ei hariannu mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru drwy ei Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Bydd Ysgol Gatholig Crist y Gair yn disodli Ysgol Mair ac Ysgol Gatholig Bendigaid Edward Jones.

Dywedodd Amanda, sef Dirprwy Bennaeth Ysgol Uwchradd Elfed ym Mwcle ar hyn o bryd: “Rydw i wedi cyffroi’n arw ac mae’n hynod o fraint cael fy mhenodi fel Pennaeth cyntaf Ysgol Gatholig Crist y Gair.

Rydw i wedi bod yn dysgu ers dros 20 mlynedd mewn amryw o ysgolion. Yn ystod fy ngyrfa fel athro, rydw i wedi gweithredu rôl arweinydd mewn sawl swydd uwch, gan gynnwys pennaeth, dirprwy bennaeth, pennaeth cynorthwyol a Phennaeth Mathemateg.

Fe wnes i raddio o Brifysgol Ystrad Clun gyda gradd Meistr mewn Peirianneg, ac rydw i wrth fy modd yn dysgu Mathemateg i bob lefel gallu.

Rydw i wedi bod yn gyfrifol am sawl agwedd allweddol o arwain ysgol, gan gynnwys safonau a chynnydd ym meysydd Sgiliau, Cwricwlwm a Lles.

Fy mhrif flaenoriaeth yw bod y plant a’r staff yn setlo, ac yn hapus yn ein hysgol newydd.

Rydw i’n teimlo’n angerddol dros addysgu, ynghyd â sicrhau darpariaeth addysgol ragorol ymhob maes, mae angen i ysgol gymunedol o’r radd flaenaf feithrin hyder a gwydnwch mewn pobl ifanc fel eu bod yn gallu mynd i’r afael â heriau gyda brwdfrydedd.

Rydw i’n credu bod gan blant angen am sylfaen gadarn i dyfu a ffynnu, ymhob maes, felly rydw i’n edrych ymlaen at gael arwain teulu Catholig Crist y Gair. Cefnogi a datblygu cred, gallu a doniau pob person ifanc, ac felly’n paratoi ein plant i fyw ac arwain mewn byd sy’n newid yn barhaus.”

Meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch Roberts, Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc a'r Iaith Gymraeg: “Hoffwn longyfarch Mrs Preston ar ran y Cyngor a dymuno’n dda iddi yn ei swydd newydd.

“Bydd Amanda yn darparu arweinyddiaeth hanfodol ac yn helpu i gyfrannu at lwyddiant Ysgol Gatholig Crist y Gair a fydd yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf i ddisgyblion ac yn darparu amgylchedd dysgu da er mwyn iddynt ffynnu. Mae cefnogi pobl ifanc i gyflawni eu potensial yn flaenoriaeth i’r Cyngor ac mae darparu cyfleusterau ysgol modern sy’n gwella dysg disgyblion yn ein helpu i gyflawni hyn.”

Dywedodd Gill Greenland, Cadeirydd y Corff Llywodraethu Dros Dro: “Dyma newyddion cadarnhaol a chyffrous i’r ysgol newydd. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Amanda i’n cymuned wrth i bennod newydd mewn addysg Gatholig ddechrau yn y Rhyl.”

Cyn-ddisgybl yn dychwelyd i Ysgol yn y Rhyl i lansio prosiect ffilm fer

Cafodd y disgyblion gipolwg ar fyd Hollywood pan ddaeth cyn-ddisgybl proffil uchel yn ôl i ysgol yn y Rhyl.

Croesawodd y Cyngor ac Ysgol Gatholig y Bendigaid Edward Jones eu cyn-ddisgybl Paul Higginson, sy’n is-lywydd gweithredol EMEA ar gyfer Twentieth Century Fox, i drafod sut i olrhain gyrfa yn y byd ffilmiau.

Lansiodd Paul Higginson brosiect ffilm fer mewn cydweithrediad â menter Cyfoethogi Cwricwlwm Sir Ddinbych a Cherddoriaeth a Ffilm Gymunedol Tape, ar ôl dosbarth meistr ysgrifennu sgriptiau yn 2017, pan ddaeth yr awdur teledu a ffilmiau Jimmy McGovern i'r ysgol a chynorthwyo myfyrwyr i lunio sgript ar gyfer ffilm fer o’r enw Fight or Flight.

Mae Paul wedi gweithio ar sawl ffilm enwog, gan gynnwys Titanic yn 1997, ac roedd yn gyfrifol am ddod â dangosiad cyntaf comedi Jim Carrey - Me, Myself and Irene i’r dref yn 2000.

Dywedodd: "Fe wnes i dyfu i fyny yn y Rhyl, es i'r ysgol hon ac roeddwn eisiau cyfrannu at y prosiect hwn.

“Roeddwn yn edrych ymlaen at ddod yn ôl ac roedd yn emosiynol iawn. Roeddwn eisiau i’r myfyrwyr ddeall beth sy’n bosibl, mae cymaint o sylw negyddol o ran ymestyn y tu hwnt i’ch amgylchedd a’r hyn y mae'r unigolion o'ch cwmpas yn eu gosod fel paramedrau ar eich cyfer. 

“Roeddwn eisiau dweud wrthynt y gallant wthio y tu hwnt i'r ffiniau. Rwy’n falch o gefnogi menter sy’n cynorthwyo plant i deimlo felly”.

Bydd y disgyblion yn ffilmio a chynhyrchu Fight or Flight, sy’n ymdrin â materion megis hunan-barch, delwedd y corff a chyfryngau cymdeithasol, gyda’r dangosiad cyntaf i’w gynnal yn yr ysgol yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Mathew Smith, disgybl blwyddyn 11, fod sgwrs Mr Higginson wedi ysbrydoli’r myfyrwyr.

Dywedodd: “Un peth sy'n arwyddocaol i mi yw ei fod o'r un dref â ni, gan olygu ei fod yn fwy credadwy ac yn edrych fel rhywbeth y gallwn ni ei wneud".

Mae’r prosiect yn gydweithrediad rhwng menter Cyfoethogi Cwricwlwm Sir Ddinbych , yr ysgol a Tape, gyda chyllid gan Gronfa Addysg Thomas Howell ar gyfer Gogledd Cymru.

Dywedodd Dominic Tobin, Pennaeth yr ysgol: “Mae ein myfyrwyr yn falch o’r cyfle i wthio eu hunain y tu hwnt i’r arferol, daeth gweithwyr proffesiynol i’r ysgol i weithio gyda nhw a gwthio’r ffiniau sy’n wych, ynghyd â rhoi cred iddynt y gallai eu diddordebau arwain at yrfa.  Yn ogystal bydd hwn yn hwb i’w hyder ac hunan-gred, gan agor eu meddyliau i bosibiliadau gyrfaoedd yn y dyfodol.

Cipolwg ar gyraeddiadau prosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Sir Ddinbych

Ddeng mlynedd yn ôl cymeradwyodd cynghorwyr Sir Ddinbych ddechreuad y Rhaglen Moderneiddio Addysg sydd wedi gwneud buddsoddi mewn adeiladau ysgol yn y sir yn flaenoriaeth allweddol. Yn sgil y gefnogaeth hon gan gynghorwyr a gwaith partneriaeth â Llywodraeth Cymru, ers 2010 gwariwyd bron £97 miliwn ar wella neu godi adeiladau ysgol newydd yn Sir Ddinbych gyda phrosiectau yn y Rhyl a Phrestatyn yng ngogledd y sir i lawr i Langollen a Chynwyd yn y de.

Nod y Rhaglen Moderneiddio Addysg yw adolygu darpariaeth ysgolion yn Sir Ddinbych a buddsoddi mewn adeiladau a chyfleusterau gwell.   Daw’r dyraniad cyllid cyntaf ar gyfer y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, sef rhaglen genedlaethol gyda Llywodraeth Cymru’n darparu nawdd cyfatebol ar gyfer prosiectau, i ben eleni a hyd yma fel rhan o’r rhaglen cwblhawyd sawl prosiect rhagorol gyda thri arall i’w cwblhau eleni.

Mae’r rhaglen hefyd wedi rhoi hwb i’r economi lleol gan fod y rhan fwyaf o gynlluniau wedi’u hymgymryd a nhw gan gwmnïau o Ogledd Cymru gyda phwyslais cryf ar sicrhau caffael lleol. Mae hyn wedi dod a chyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth i’r economi lleol.

Mae’r prosiectau ysgolion cynradd sydd wedi’u cwblhau hyd yma yn cynnwys:

Mae'r prosiectau ysgolion uwchradd sydd wedi'u cwblhau hyd yma yn cynnwys:

Dyma brosiectau Ysgolion yr 21ain Ganrif sydd yn parhau:

I ddarganfod mwy am bob un o'r prosiectau unigol uchod, cliciwch ar y ddolenni.

Dyffryn Dyfrdwy: Ysgol Dyffryn Iâl, Llandegla

Agorwyd yr ysgol ym mis Tachwedd 2013

Cost: £900k

 Ariannwyd gan y Cyngor Sir.

 Roedd y prosiect yn cynnwys codi adeilad newydd ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cyffinio â neuadd y pentref. Mae hyn wedi galluogi’r ysgol i weithredu o un safle mewn ystafelloedd dosbarth pwrpasol.

Dyffryn Dyfrdwy: Ysgol Gwernant / Ysgol Bryn Collen, Llangollen

Agorwyd mis Medi 2011.

Cost: £900k

 Ariannwyd gan Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru.

 Fel rhan o’r buddsoddiad hwn mewn ysgol gynradd yn Llangollen adeiladwyd estyniad tair ystafell ddosbarth ac adnewyddwyd rhannau o’r adeilad ysgol oedd eisoes ar y safle.

Roedd y prosiect hwn yn ymateb i’r galw am fwy o lefydd yn yr ysgol ar gyfer plant y dref, cael gwared ar yr hen gyfleusterau symudol a hefyd gwneud lle ar gyfer disgyblion o Ysgol Glyndyfrdwy ar ôl i’r ysgol honno gau.

Dyffryn Dyfrdwy: Ysgol Bro Dyfrdwy, Cynwyd

Agorwyd ym mis Mehefin 2014

Cost: £1.4m

 Ariannwyd gan Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

 Fel rhan o’r prosiect hwn adeiladwyd estyniad tair ystafell dosbarth ac adnewyddwyd dosbarthiadau eraill a chrëwyd derbynfa a chyfleusterau gweinyddu newydd.

Roedd cwblhad y prosiect yn galluogi’r ysgol a oedd newydd ei chyfuno i weithredu o un safle a chael gwared ar ddosbarth symudol.

Ardal Prestatyn: Ysgol y Llys, Prestatyn

Agorwyd mis Medi 2014

 Cost: £2.8m

 Ariannwyd gan Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru

 Gyda chynnydd mewn galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg darparodd y prosiect hwn estyniad wyth ystafell dosbarth a gwaith adnewyddu er mwyn darparu ar gyfer anghenion y dyfodol.

Gyda chwblhad y prosiect bu modd cael gwared ar ddosbarthiadau symudol o’r safle.

Ardal Prestatyn: Ysgol Gymunedol Bodnant

Agorwyd mis Medi 2016.

Cost: £3.5m

Ariannwyd gan Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

 Drwy ymestyn safle’r ysgol iau bu modd i’r ysgol ddechrau weithredu o un safle. Darp ac adnewyddiad ardaloedd dysgu eraill ynghyd â derbynfa, cyfleusterau gweinyddu a neuadd newydd.  

Bu modd hefyd cael gwared ar ystafelloedd symudol a dechreuodd yr ysgol a oedd newydd gyfuno weithredu o un safle.

Ardal Rhuthun: Ysgol Stryd y Rhos / Ysgol Pen Barras

Agorwyd mis Ebrill 2018

 Cost: £11.3m

Ariannwyd gan Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif

Yn sgil y prosiect hwn symudodd Ysgol Stryd Rhos ac Ysgol Pen Barras i safle newydd pwrpasol mewn amgylchedd modern.

Disodlodd yr ysgol newydd yr hen safle a oedd yn orlawn ac yn cynnwys sawl adeilad symudol.

Ardal Dinbych: Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych

Wedi agor mis Medi 2014

 Cost: £1.4m

Ariannwyd gan Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru

Darparpodd y prosiect estyniad tair ysafell dosbarth yng nghefn y safle ac adnewyddiad rhai rhannau o’r ysgol a neuadd yr ysgol.

Nod y prosiect oedd cael gwared ar ystafelloedd symudol a diwallu’r angen cynyddol am Addysg Cyfrwng Gymreg.

Ysgol Uwchradd y Rhyl / Ysgol Tir Morfa, y Rhyl

Agorwyd mis Ebrill 2016.

 Cost: £24m

Ariannwyd gan Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Trawsnewidiwyd addysg uwchradd yn nhref y Rhyl yn sgil y prosiect hwn. Cafodd yr hen adeiladau a oedd wedi’u gwasgaru ar hyd y safle, llawer ohonynt mewn cyflwr gwael dros ben, eu disodli â chyfleuster newydd o’r radd flaenaf.

Mae’r ysgol newydd yn darparu 1200 o lefydd ar gyfer disgyblion Ysgol Uwchradd y Rhyl a 45 ar gyfer Ysgol Tir Morfa.

Ysgol Glan Clwyd

Agorwyd mis Medi 2017

 Cost: £16.5m

Ariannwyd gan Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Cwblhawyd y prosiect hwn fesul cam. Roedd estyniad mawr newydd wedi’i gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2017 a bu modd wedyn adnewyddu’r rhan fwyaf o brif adeilad yr ysgol yn cynnwys yr adeilad Fictoraidd a oedd yn nodwedd amlwg yn nhirwedd Llanelwy, ynghyd â dymchwel adeiladau oedd mewn cyflwr salach. Bu modd hefyd cael gwared ar adeiladau symudol.

Y nod oedd diwallu’r galw cynyddol am Addysg Cyfrwng Cymraeg.

Ysgol Carreg Emlyn, Clocaenog

I agor yn yr haf 2019

 Cost: £5m

Ariannwyd gan Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Mae ysgol safle sengl newydd ar gyfer Ysgol Carreg Emlyn yn cael ei hadeiladu ym Mhentref Clocaenog, yn lle’r adeiladau presennol yng Nghyffylliog a Chlocaenog. Mae Ysgol Carreg Emlyn wedi bod yn weithredol ar safle Clocaenog a Chyffylliog ers i’r ddwy ysgol gael eu cyfuno yn 2014.

Dechreuodd y prif gontractwr, Wynne Construction waith ar y safle ym mis Mai 2018 ac yn ystod y gwaith mae staff a disgyblion wedi ymweld â’r safle ar gerrig milltir allweddol er mwyn gweld y cynnydd.

Bydd y safle newydd yn cynnwys ystafelloedd dosbarth newydd, ardaloedd dysgu ychwanegol, neuadd, ystafell gymunedol, ardaloedd chwarae awyr agored, mynedfa newydd ar gyfer cerbydau a maes parcio gyda man gollwng.

Mae’r prosiect yn dilyn yr amserlen gyda'r gwaith adeiladu erbyn hyn ar y camau olaf a disgwylir y bydd y disgyblion yn symud i’r safle newydd yn ystod tymor yr haf 2019.

Ysgol Llanfair

I agor yn yr haf 2019

Cost £5.3m

Ariannwyd gan Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Ysgol Eglwys ddwyieithog newydd ar gyfer Ysgol Llanfair DC, sy’n cael ei hadeiladu ar dir dros y ffordd i Bryn y Clwyd, Llanfair DC.

Ariennir y prosiect ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych mewn partneriaeth ag esgobaeth Llanelwy a bydd yn darparu ystafelloedd dosbarth newydd, ardaloedd dysgu ychwanegol, ardal fyfyrio, neuadd, ystafell gymunedol, ardaloedd chwarae awyr agored, mynedfa gerbydau newydd a lle parcio ceir gyda man ollwng. Mae hyn yn fuddsoddiad gwirioneddol angenrheidiol yn yr ysgol gan fod cyfleusterau presennol yr ysgol wedi dyddio gydag angen dybryd i’w moderneiddio. Roedd pryderon wedi bod hefyd am y diffyg lle parcio, ardaloedd cyhoeddus a hygyrchedd yr ysgol, sydd wedi’i lleoli ar yr A525 brysur yng nghanol y pentref

Dechreuodd cwmni Wynne Construction o Fodelwyddan, y prif gontractwr, waith ar y safle ym mis Mehefin 2018. Mae cynnydd rhagorol wedi’i wneud ar y safle yn ystod y cam adeiladu ac mae staff a disgyblion wedi ymweld ar gamau allweddol i gael cipolwg ar eu cyfleuster newydd wrth i’r gwaith adeiladu fynd yn ei flaen ar y safle.

Disgwylir y bydd y disgyblion yn symud i mewn i’r ysgol newydd yn ystod tymor yr haf 2019.

Ysgol Gatholig Crist y Gair

Cam cyntaf i agor yn yr hydref 2019

Cost: £23m

Ariannwyd gan Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Mae gwaith ar Ysgol Crist y Gair yn y Rhyl yn mynd yn ei flaen yn dda. Bydd yr ysgol newydd a fydd yn disodli Ysgol Gynradd Mair ac Ysgol Uwchradd y Bendigaid Edward Jones yn darparu ar gyfer 420 o ddisgyblion llawn amser rhwng 3-11 a 500 o ddisgyblion rhwng 11-16 a disgwylir y bydd yr adeilad newydd yn agor yn yr hydref 2019. Wedi hyn bydd yr adeiladau presennol yn cael eu dymchwel i wneud lle ar gyfer ardaloedd chwaraeon/chwarae a gobeithir y bydd y safle cyfan wedi’i gwblhau erbyn yr haf 2020.

Cyrhaeddwyd carreg filltir allweddol ddiwedd mis Ionawr 2010 pan gafodd Amanda Preston ei phenodi’n bennaeth newydd yr ysgol. Meddai Mrs. Preston, sydd yn ddirprwy bennaeth yn ysgol Uwchradd Elfed, Bwcle ar hyn o bryd: “Rydw i wrth fy modd ac yn teimlo’n freintiedig iawn i fod wedi cael fy mhenodi’n bennaeth cyntaf Ysgol Gatholig Crist y Gair.”

I ddilyn datblygiad y prosiect hwn dilynwch y blog addysg: https://educationindenbighshire.wordpress.com/

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid