Alergedd ac anoddefiad bwyd - Canllawiau cyflym i archebu bwyd neu bryd tecawê yn ddiogel
Os oes gennych chi alergedd neu anoddefiad bwyd, mae'n bwysig bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud dewis bwyd diogel. Rydyn ni wedi rhestru rhai pethau y dylech eu hystyried cyn archebu pryd o fwyd.
Bwyta allan mewn bwyty, caffi neu fusnes bwyd
- Edrychwch ar y fwydlen ar-lein a ffoniwch ymlaen llaw i ofyn beth yw polisi'r busnes ar alergedd ac anoddefiad bwyd. A yw'n cynnig bwyd sy'n addas i chi? Ac os nad ydyw, a yw'r staff yn gallu paratoi pryd arbennig ar eich cyfer chi? (Rhaid i fusnesau bwyd gynnig gwybodaeth am alergenau i chi, ond nid yw'n ofynnol iddynt gynnig pryd gwahanol i chi sy'n addas i'ch angen.)
- Byddwch yn glir iawn am eich alergedd/anoddefiad bwyd a rhowch enghreifftiau o'r bwydydd sy'n eich gwneud yn sâl.
- Os nad ydych chi o'r farn bod yr unigolyn yr ydych chi'n siarad ag ef yn deall eich anghenion, gofynnwch i siarad â'r rheolwr neu rywun a all fod o fwy o gymorth.
- Gofynnwch sut mae'r bwyd yn cael ei drin a'i goginio, a p'un a oes siawns o groeshalogi gan offer coginio neu gynhwysion.
- Gwiriwch fod yr wybodaeth am alergenau'n gywir. A fu newid munud olaf yn y rysáit neu gyfnewid cynhwysyn?
- Byddwch yn ofalus iawn os yw'r bwyty'n gweini prydau cymhleth, gan y gallai alergenau fod yn llai amlwg neu'n gudd.
- Os oes gennych unrhyw amheuaeth am y staff yn deall pwysigrwydd eich anghenion deietegol, peidiwch â chadw bwrdd yn y bwyty.
Ar ôl cyrraedd
- Siaradwch â'ch gweinydd neu'r rheolwr. Byddwch yn glir am eich alergedd/anoddefiad bwyd a chadarnhewch eich sgwrs flaenorol gyda'r staff
- Gwiriwch fod y dewisiadau bwyd yn addas ar eich cyfer chi neu y gallant wneud newidiadau sy'n addas i'ch anghenion dietegol.
- Atgoffwch nhw i fod yn ofalus o groeshalogi neu alergenau ychwanegol o wahanol fathau o sglein, sawsiau ac olewau coginio, ac atgoffwch nhw i baratoi eich pryd â gofal.
- Os oes gennych unrhyw amheuaeth am y staff yn deall pwysigrwydd eich anghenion deietegol, peidiwch â bwyta yno.
Archebu bwyd tecawê dros y ffôn neu ar-lein
- Mae prydau tecawê yn cael eu hystyried yn brydau a werthir o bell, felly rhaid darparu gwybodaeth ar adeg prynu ac wrth gyflwyno'r bwyd.
- Dilynwch y camau a restrir yn yr adran 'Bwyta allan mewn bwyty, caffi neu fusnes bwyd', ond hefyd:
- gwiriwch fod yr wybodaeth am alergenau ar gael ar y fwydlen, ar-lein neu dros y ffôn
- wrth archebu i fwy nag un person, gwnewch yn siŵr bod y bwyty'n labelu eich pryd, fel y byddwch chi'n gwybod pa archeb sy'n ddiogel i chi
Cysylltwch a tîm Diogelwch a Safonau Bwyd diogelwch.bwyd@sirddinbych.gov.uk os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â syt mae busness bwyd yn rheoli alerergedd, neu os ydych wedi cael adwaith alergaidd yn dilyn ymweliad i fusnes fwyd neu tecawe. Mae mwy o wybodaeth hefyd ar gael ar gwefan Asiantaeth Safonau Bwyd.