Dosbarthu taflenni a pamffledi
Mae Tîm Twristiaeth Sir Ddinbych yn darparu gwasanaeth dosbarthu taflenni twristiaeth am ddim ar gyfer busnesau sy’n archebu taflenni a pamffledi. Caiff yr wybodaeth hon ei chynhyrchu i ddenu ymwelwyr i’r ardal a gwella eu profiadau pan fyddant yma.
Mae’r cynnyrch yn cynnwys:
- Taflenni Llwybrau Tref
- Taflen y 5 Taith
- Taflenni SC2 y Rhyl
- Llyfryn Canolfan Grefft Rhuthun
- Taflen dreftadaeth
Pwy all archebu?
- Gallwch archebu gan y gwasanaeth dosbarthu taflenni os yw eich busnes yng ngogledd ddwyrain Cymru ac os ydych chi’n dod i gysylltiad ag ymwelwyr.
Sut i archebu?
- Gallwch archebu ar-lein a bydd y Gwasanaeth Dosbarth Taflenni Twristiaeth yn eu danfon am ddim.
Dyddiad cau ar gyfer archebu
- Archebwch erbyn 17/09/2019 er mwyn i’ch taflenni gyrraedd yr wythnos sy’n dechrau ar 23/09/2019.
Archebwch ar-lein drwy’r Gwasanaeth Dosbarthu Taflenni Twristiaeth.