llais y sir

Llais y Sir: Gorffennaf 2022

Diweddariad ar daliadau cymorth costau byw yn Sir Ddinbych

Mae'r Cyngor wedi gweinyddu dros £3.2 miliwn o daliadau cymorth costau byw sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae 21,535 o bobl y sir eisoes wedi derbyn y taliad  o £150. Mae Cynllun Cymorth Costau Byw Llywodraeth Cymru ar waith i helpu preswylwyr gyda chynnydd mewn costau byw a bydd taliadau’n cael eu cyflwyno i’r rheini sydd ag eiddo ym mandiau Treth y Cyngor A-D.

Bydd taliadau hefyd yn cael eu gwneud i breswylwyr a oedd yn derbyn Cymorth Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar 15 Chwefror, 2022, waeth beth fo’r Band, a’r rheini ag eiddo ym Mand E lle sydd wedi cael addasiadau, gan leihau’r gwerth trethadwy i Fand D.

Nawr mae'r Cyngor yn annog trigolion eraill i wneud cais am yr arian a bydd e-bost neu neges destun yn cael ei anfon at bobl lle mae gan y Cyngor eu manylion cyswllt a llythyr drwy’r post yn cael ei anfon at bob preswylydd cymwys arall, yn eu gwahodd i wneud cais.

Gellir gwneud ceisiadau ar y wefan: www.sirddinbych.gov.uk/cymorth-costau-byw

Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol: “Mae’r Cyngor yn gweinyddu’r cynllun hwn ar ran Llywodraeth Cymru ac rydym wedi bod yn gweithio mor gyflym â phosibl i gyflwyno’r taliadau hyn i’n cwsmeriaid.

“Mae llawer o bobl eisoes wedi derbyn taliadau, ond rydym am wneud yn siŵr bod pawb sy’n gymwys ar gyfer y taliadau yn cyflwyno eu ceisiadau cyn gynted â phosibl.

“Bydd taliadau’n cael eu gwneud yn awtomatig i’r mwyafrif o drigolion sy’n talu drwy ddebyd uniongyrchol, a bydd angen i weddill y cwsmeriaid lenwi ffurflen fer ar wefan y Cyngor.

“Mae costau byw yn parhau i herio pob un ohonom. Mae’n hanfodol bwysig bod ein trigolion yn hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddynt a byddwn yn annog pobl i wneud cais am y taliad cymorth.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...