llais y sir

Llais y Sir: Gorffennaf 2022

Gwirfoddolwyr yn cefnogi nythfa Môr-wenoliaid Gronant

Mae gwirfoddolwyr yn helpu nythfa o adar i ffynnu ar arfordir Sir Ddinbych.

Y nythfa yma o Fôr-wenoliaid Bach ar draeth Gronant ger Prestatyn yw’r nythfa fagu fwyaf yng Nghymru.

Mae’r safle hwn yn adnabyddus ledled y byd gan ei fod yn cyfrannu at dros ddeg y cant o boblogaeth fagu’r DU gyfan, yn ogystal ag ategu nythfeydd eraill.

Mae’r nythfa leol wedi bod yn cael cefnogaeth gan grŵp o wirfoddolwyr: Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymru. Maen nhw wedi bod yn helpu staff gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych i osod pedwar cilomedr o ffensys ar y traeth i greu llociau er mwyn galluogi’r adar i nythu’n ddiogel.

Mae cynnydd yn niferoedd y Môr-wenoliaid Bach wedi’i weld ar y safle dros y gwanwyn gyda chyfrifiad diweddar yn cofnodi dros 200 o adar aeddfed, a chadarnhawyd bod yr adar bellach wedi nythu ar y safle.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth y Cyngor: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r gwirfoddolwyr am eu gwaith i’n helpu i amddiffyn y nythfa bwysig hon o Fôr-wenoliaid Bach yng Ngronant a rhoi dyfodol llewyrchus iddyn nhw ar y safle.

“Os hoffech weld y nythfa, rydym yn annog pobl i ddod i’r llwyfan gwylio neu i’r ganolfan ymwelwyr gyda phâr o finocwlars er mwyn amharu cyn lleied ag sy’n bosibl ar yr adar sy’n nythu.”

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gwirfoddoli i gefnogi’r nythfa o Fôr-wenoliaid Bach, anfonwch e-bost atlittleternengagement2022@outlook.com fam fwy o wybodaeth.

Ariennir y prosiect hwn gan Gynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi.

 

Credyd llun: Michael Steciuk

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...