llais y sir

Llais y Sir. Gorffennaf 2023

Paneli Solar i Ysgol Llywelyn, Y Rhyl

Mae ysgol gynradd yn Y Rhyl yn chwarae ei rhan i helpu i leihau allyriadau carbon.

Mae Tîm Ynni Adran Eiddo y Cyngor wedi comisiynu offer newydd yn Ysgol Llywelyn yn Y Rhyl sydd wedi arwain at osod paneli solar newydd ar y to.

Cyhoeddodd y Cyngor Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol ym mis Gorffennaf 2019 ac, ers hynny, mae wedi ymrwymo i ddod yn Gyngor Di-garbon Net ac Ecolegol Gadarnhaol erbyn 2030. Mae hyn yn cynnwys lleihau allyriadau o’r ystâd adeiladau, sy’n gyfrifol am dros 60% o allyriadau carbon uniongyrchol y Cyngor.

Fel rhan o’r prosiect gwyrdd yn Ysgol Llywelyn mae paneli solar 20.25kW wedi eu gosod ar do’r ysgol a fydd yn creu trydan ar gyfer yr ysgol drwy ddefnyddio ynni’r haul.

Amcangyfrifir y bydd yn lleihau biliau tanwydd o oddeutu 17,360kWh/yr. Mae’n hynny’n cyfateb i tua 5,034CO2 neu oddeutu 5 tunnell o garbon.

Gosodwyd y paneli solar hyn tuag at ddiwedd mis Mai ac maen nhw’n rhan hollbwysig o’r gwaith i leihau allyriadau carbon.

Cafodd yr ysgol oleuadau LED hefyd sy'n gostwng faint o drydan a ddefnyddir i oleuo’r ysgol o 70%. Yn ogystal, addaswyd y rheolyddion gwresogi er mwyn gostwng y nwy a ddefnyddir yn rhan o’r ymdrechion pellach i fod yn fwy gwyrdd.

Mae Ysgol Christchurch sydd hefyd yn Y Rhyl wedi gosod paneli solar a goleuadau LED yn ddiweddar, a gosodwyd boeler nwy mwy effeithlon a system wresogi dŵr well sy’n allyrru llai o garbon.

Dywedodd Nathan Jones, Prifathro Ysgol Llywelyn: “Rydym yn ffodus iawn ein bod wedi cael Paneli Solar a goleuadau LED a osodwyd yn rhan o gynllun lleihau carbon y Cyngor.

"Trwy ddefnyddio ynni solar mae gennym y gallu i harneisio ynni adnewyddadwy, a hefyd ysbrydoli disgyblion gydag enghraifft glir o gyfrifoldeb amgylcheddol, gan rannu gwybodaeth am ffynonellau ynni adnewyddadwy.

"Mae’r gosodiad yn golygu llai o allyriadau carbon, costau ynni is, ac offeryn addysgol amhrisiadwy”.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Mae gan bawb ran i’w chwarae mewn helpu i leihau ein hallyriadau ac i fod yn wyrddach pan fyddwn yn gallu.

"Dwi’n falch o weld fod gosod y paneli hyn yn helpu i leihau carbon a chostau, a’n bod yn ychwanegu paneli solar unwaith yn rhagor ar un o ysgolion Sir Ddinbych”.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...