llais y sir

Llais y Sir. Gorffennaf 2023

Ar daith gyda Sir Ddinbych yn Gweithio

Carnifal Prestatyn: Dydd Sadwrn, 22 Gorffennaf

Ble? Gerllaw Bastion Road a Beach Road East wrth ymyl clwb poblogaidd Central Beach Club a Chanolfan Nova Prestatyn.

Bydd Sir Ddinbych yn Gweithio yn ymuno â’r hwyl yn ystod y digwyddiad hwn sy’n hen draddodiad ym Mhrestatyn!

Dewch draw am sgwrs gyfeillgar i ganfod pa fath o gefnogaeth y gallwn ei chynnig i chi!

 

Sioe Dinbych a Fflint: Dydd Iau, 17 Awst

Ble? Y Grîn, Dinbych. LL16 4U

Mae holl hwyl a chyffro sioe flynyddol Dinbych a Fflint ar y gorwel!

Cadwch lygad am dîm Sir Ddinbych yn Gweithio gan y byddwn yno yn rhan o’r hwyl ac yn barod i gael sgwrs â chi!

 

Sioe Awyr y Rhyl: Dydd Sadwrn a Dydd Sul, 26 a 27 Awst

Ble? Promenâd y Rhyl

Mae’r sioe awyr hynod boblogaidd hon yn dychwelyd i lan y môr y Rhyl, gydag arddangosfeydd rhyfeddol yn yr awyr ac adloniant ar y tir hefyd.

Cawsom gymaint o hwyl y llynedd a byddwn yno eto eleni! Galwch heibio i weld beth sydd gennym i’w gynnig.

 

Ffair Swyddi Hydref Sir Ddinbych yn Gweithio: Dydd Mercher, 27 Medi

Ble? Bar a Bwyty 1891, y Rhyl

Yn dilyn llwyddiant ein ffair swyddi yn 1891 yn ôl ym mis Ionawr, hoffem ail-greu’r canlyniadau anhygoel a welwyd.

Unwaith eto rydym yn gobeithio croesawu ystod eang o dros 50 o gyflogwyr a gwasanaethau o wahanol sectorau, gan roi cyfle i chi ddarganfod mwy am y gwahanol swyddi a pha swyddi gwag sydd ar gael.

 

Ffair Swyddi Sir Ddinbych yn Gweithio yn y Flwyddyn Newydd: Dydd Mercher, 24 Ionawr 2024

Ble? Bar a Bwyty 1891, y Rhyl

Paratowch am flwyddyn newydd sbon ac ymunwch â ni yn ein Ffair Swyddi’r Flwyddyn Newydd!

Cewch gyfle i siarad gyda chynrychiolwyr ystod eang o gyflogwyr a gwasanaethau a darganfod mwy am wahanol swyddi a pha swyddi gwag sydd ar gael.

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...