llais y sir

Llais y Sir. Gorffennaf 2023

O Dnipro i Sir Ddinbych

Ym mis Chwefror 2022, cychwynnwyd yr ymosodiad llawn ar Wcráin gan Rwsia yn swyddogol, gan adael Wcrainiaid oedd yn agos at yr ymladd dan fygythiad cyson. Roedd tua 8 miliwn o Wcrainiaid wedi’u dadleoli o fewn eu gwlad erbyn mis Mehefin, ac roedd mwy nag 8.2 miliwn wedi ffoi o'r wlad erbyn Mai 2023. Mae'r ymladd wedi achosi'r argyfwng ffoaduriaid a dyngarol mwyaf yn Ewrop ers y 1990au, gyda llawer o wledydd yn cynnig hafan ddiogel i Wcrainiaid, gan gynnwys Cymru.

Mae Oksana, sy’n 26 oed, yn un o’r bobl sydd wedi dod o hyd i ddiogelwch yng Nghymru, ac sydd bellach yn byw gyda noddwr yn Sir Ddinbych. Daw Oksana o bentref sy'n agos at Dnipro, sydd ger rhanbarth Donbas ac mae'n un o ddinasoedd mwyaf Wcráin.

Astudiodd Oksana systemau a rhwydweithiau cyfrifiadurol yn y coleg yn Dnipro a gweithiodd fel dadansoddwr systemau yn y ddinas am 4 blynedd. Mae hi bellach yn gweithio yng Nghyngor Sir Ddinbych ac mae ar leoliad 12 wythnos fel Swyddog Cefnogi Newid yn yr Hinsawdd, yn helpu i brosesu data newid yn yr hinsawdd pwysig.

Nid oedd gan Oksana unrhyw fwriad i roi'r gorau i'w chartref yn Wcráin. Fodd bynnag, pan darodd roced stryd gyfagos, gan achosi cryndod pwerus a achosodd i bopeth syrthio ar ei chwpwrdd wrth y gwely, sylweddolodd yn sydyn fod y rhyfel wedi cyrraedd ei stepen drws. O ganlyniad, gwnaeth y penderfyniad i beidio â chymryd y risg o geisio symud i leoliad mwy diogel yn Wcráin. Yn ystod mis Ebrill 2022, dihangodd o'r Wcráin, tra dewisodd ei mam a'i chwaer aros yno.

Dywedodd: “Dydych chi ddim yn poeni am y rhyfel nes ei fod yn curo ar eich ffenestr. Ym mis Mawrth 2022, cefais fy neffro gan olau llachar y tu allan i'm ffenestr. Roced oedd o. Pan darodd, symudodd fy ngwely a syrthiodd popeth oddi ar fy nghwpwrdd wrth y gwely. Pan wyliom ni’r newyddion yn hwyrach y noson honno, dywedwyd bod y roced wedi taro tŷ fy nghymdogion, sydd ddim ond dwy funud i ffwrdd ar droed. Dwi dal methu credu ei fod yn digwydd. Heddiw rydw i'n deffro ac yn gwisgo ac mae fy Mam a'm chwaer yn dal i fod yno, ac mae'r rhyfel yn dal i fynd ymlaen”.

Trwy hap a damwain, daeth ar draws gwybodaeth ar-lein yn dweud bod Prydain yn croesawu ffoaduriaid o’r Wcráin trwy’r fenter ‘Cartrefi i’r Wcráin’. Darganfu hefyd ddynes o Wcráin ar Facebook a oedd wedi bod yn byw ym Mhrydain am gyfnod sylweddol. Llwyddodd i sicrhau noddwr iddi yng Nghymru.

Cysylltodd Oksana â’i noddwr, yr oedd wedi bod yn cyfathrebu â nhw drwy Facebook gan ddibynnu ar Google Translate am gymorth cyfieithu. Gyda'i gilydd, aethant ati i gasglu'r dogfennau angenrheidiol ac wrth i Oksana aros am ei fisa, sy'n cymryd tair wythnos i'w brosesu, gweithiodd i ennill rhywfaint o arian. Ynghanol sŵn y seirenau rhybudd, eisteddodd yn niogelwch neuadd a gweithio, gan aros yn bryderus am gymeradwyaeth ei fisa.

Gwelodd Oksana yn bersonol daflegrau yn cael eu tanio ym maes awyr Dnipro o falconi ei fflat. Wrth ddisgrifio’r profiad, dywedodd:

"Roedd yn teimlo fel golygfa hunllefus. Lansiwyd nifer o rocedi, a gallwn weld y cyfan o'm balconi. Roeddent fel tân gwyllt, fel rhywbeth allan o ffilm. Roeddwn yn poeni y gallai’r sefyllfa waethygu felly anfonais fideo at fy noddwr, yn dweud y gallai fy ymadawiad fod yn y fantol. Aeth fy noddwr gam ymhellach, gan helpu gyda phrosesu dogfennau a hyd yn oed gysylltu â’r radio lleol am gymorth”.

Oherwydd dinistr y maes awyr, bu'n rhaid i Oksana deithio i ochr arall Wcráin ar y trên i gyrraedd Gwlad Pwyl. Cymerodd y daith trên 24 awr ac aeth â hi i Lviv. Ar hyd y ffordd, daeth ar draws trên arall oedd wedi cael ei fomio, gan amlygu difrifoldeb y sefyllfa ymhellach.

Unwaith yn Lviv, aeth Oksana ar fws dros ffin Gwlad Pwyl i Warsaw. Yno, dywedodd ei bod mor hapus i weld gwirfoddolwyr, a oedd yn dosbarthu bwyd i'r Wcrainiaid oedd newydd gyrraedd:

“Roedden nhw'n dosbarthu cawl a ffrwythau. Roeddwn i mor hapus oherwydd prin fy mod wedi bwyta ers dau ddiwrnod, fedra i ddim esbonio pa mor hapus oeddwn i”.

Arhosodd Oksana yng Ngwlad Pwyl tra roedd hi'n aros i'w dogfennau fisa terfynol ddod drwodd. Daeth y dogfennau trwy lwc ychydig oriau cyn i'w hawyren adael am Lerpwl.

Dywedodd: "Y foment y glaniais, fe wnes i oedi i edmygu'r awyr rhuddgoch a'r machlud yn taflu ei llewyrch dros Lerpwl. Wedi fy swyno gan ei harddwch, fedrwn i ddim peidio â chipio’r olygfa mewn ffotograff. Yn fuan wedyn, fe wnaeth fy noddwr fy nghyfarch yn y maes awyr, yn dal arwydd mawr gyda fy enw arno, fy nghofleidio'n gynnes, a holi a oeddwn yn iawn”.

Ar ôl ymgartrefu yng Nghymru, cafodd Oksana waith mewn tafarn leol a chymerodd ran frwd mewn dosbarthiadau Saesneg.

Roedd ymweld â Llundain wedi bod yn freuddwyd hir ers ei phlentyndod, ac i wneud ei phen-blwydd yn arbennig iawn, fe wnaeth ei noddwyr ei synnu wrth drefnu ymweliad â'r brifddinas. Roedd yn brofiad bythgofiadwy. Gan adlewyrchu ar y sefyllfa, dywedodd Oksana:

"Roeddwn wedi bod yn dyheu am y freuddwyd hon ers fy mlynyddoedd cynnar, ond mae'n chwerwfelys sylweddoli ei bod wedi dod yn wir o dan y fath amgylchiadau".

Yn ogystal ag archwilio Llundain, mae hi wedi bod yn mynd ati i ddarganfod gwahanol rannau o'r DU, gan gynnwys taith ddiweddar i Ynys Wyth, gyda'i noddwr.

Wrth ddod i Gymru, dywedodd: “Fy hoff beth am fyw yng Nghymru yw’r ffaith fy mod yn ddiogel. Mae campfa fach yn y garej yr wyf yn hoffi ei defnyddio ac rwyf hefyd yn hoffi mynd am dro hamddenol, gan gipio eiliadau prydferth trwy ffotograffiaeth. Mae gardd yn nhŷ fy noddwr sydd mor brydferth, gyda blodau a hen goeden fawr. Fe wnes i hyd yn oed aildrefnu fy ystafell wely i gael golygfa ohoni. Mae gen i werthfawrogiad dwfn o fyd natur, ac mae Cymru’n cynnig cefndir ysblennydd i fy angerdd. Ar ben hynny, mae'r bobl yma yn wirioneddol garedig."

Bu Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynorthwyo Oksana i ddod o hyd i waith ac fe gyfeiriodd ei hun am gefnogaeth i gael gwaith a hyfforddiant. Neilltuwyd Tom fel mentor iddi a chyfarfu ag Oksana a'i helpu i ddod o hyd i leoliad gyda'r Cyngor lle mae hi bellach yn gweithio fel Swyddog Cefnogi Newid Hinsawdd a dywedodd: "Roeddwn i'n chwilio am swydd fel hon am gyfnod ac roedd y cyfweliad ar gyfer y lleoliad yn union flwyddyn o'r adeg y des i i Gymru gyntaf. Mae'n swydd debyg i'r hyn a wnes i yn yr Wcrain, rwy'n gweithio gyda data, ond mae'n ddata ychydig yn wahanol. Dwi'n hoffi'r swydd ac mae fy nhîm yn neis".

Bydd Sir Ddinbych sy'n Gweithio yn parhau i helpu Oksana i ddod o hyd i leoliadau eraill yn y dyfodol.

I ffeindio allan sut y gallwch helpu a chefnogi pobl Wcráin, ewch i'n gwefan

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...