llais y sir

Llais y Sir. Gorffennaf 2023

Sialens Ddarllen yr Haf: Ar eich Maricau, Darllenwch!

Mae llyfrgelloedd ar draws Sir Ddinbych yn paratoi ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf eleni – enw’r Sialens eleni yw Ar eich Marciau, Darllenwch! gyda thema gemau a chwaraeon.

Mae’r sialens yn annog plant i ymweld â’u lyfrgell leol i ddewis a darllen llyfrau yn rheolaidd dros wyliau’r haf ac fe fyddant yn casglu gwobrau wrth fynd trwy’r sialens.

Mae popeth am ddim ac yn agored i bob plentyn beth bynnag eu hoed a gallu. Gallant ddewis i ddarllen a mwynhau llyfrau yn y Gymraeg neu Saesneg (ac mae rhai llyfrau Wcraneg ar gael hefyd), mewn unrhyw ffurf – mae’n gyfle gwych i ddarganfod awdur newydd neu bwnc newydd i ddarllen amdano. Bydd llyfrgelloedd hefyd yn trefnu gweithgareddau i deuluoedd eu mwynhau.

Ymunwch yn rhad ac am ddim yn eich llyfrgell leol o Orffennaf 8 ac fe fydd y sialens yn rhedeg tan ddiwedd mis Medi.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...