llais y sir

Llais y Sir. Gorffennaf 2023

Mapiau ymwelwyr newydd Sir Ddinbych yn cael eu lansio

Mae cyfres o fapiau ymwelwyr newydd gyda darluniau wedi eu llunio. Mae’r pum map yn canolbwyntio ar wahanol ardaloedd ac yn cynnwys map trosolwg, lleoedd i ymweld â nhw, lleoedd i gerdded a beicio a map yn tynnu sylw at Sir Ddinbych mewn perthynas â’r rhanbarth ehangach a’r prif ganolfannau cludiant.

Cafodd y mapiau eu cynhyrchu gan y darlunydd, David Goodman, a lluniwyd nhw i gyd â llaw. Mae pob un yn cynnwys tirweddau Sir Ddinbych, llwybrau cludiant cyhoeddus trenau a bysiau, trefi a phentrefi yn ogystal ag amwynderau ymwelwyr fel llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, cyrsiau golff, theatrau, sinemâu, amgueddfeydd a chanolfannau croeso.

Dywedodd David: “Mae wedi cymryd bron i flwyddyn i ni drosi’r wybodaeth i gyd i gyfres o fapiau a fydd, gobeithio, yn fan cychwyn gwych i unrhyw un sydd am ymweld â Sir Ddinbych neu grwydro’r sir ymhellach.  Mae’n ardal yr wyf i wedi dod i’w hadnabod yn dda iawn dros y blynyddoedd, ac rwy’n gobeithio y bydd y mapiau’n ennyn cymaint o ddiddordeb a llawenydd ag y gwnaethon nhw i mi wrth eu creu nhw.”

Dywedodd y Cynghorydd Win-Mullen James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio y Cabinet: “Mae twristiaeth yn rhan hanfodol o economi Sir Ddinbych ac mae’r effaith economaidd dros £432 miliwn, a bu dros 4 miliwn o ymweliadau â’r sir. Mae’r buddsoddi parhaus yn ardaloedd gwledig ac arfordirol Sir Ddinbych i wella’r cynnig i ymwelwyr yn galonogol iawn i sicrhau twf parhaus yn y dyfodol.”

Mae agor Gorsaf Corwen yn ychwanegiad cyffrous i’r cynnig twristiaeth ar ôl cwblhau canopi’r platfform rheilffordd yn llwyddiannus fel rhan o Gronfa Ffyniant Bro De Clwyd Cysylltedd Corwen - Porth Gorllewinol Newydd a Gwell i Ddyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd. Mae'r orsaf newydd yn ffrwyth llafur nifer o flynyddoedd o waith caled gan staff a thîm ymroddedig o wirfoddolwyr Rheilffordd Llangollen a Chorwen.

Mae gwaith arfordirol i wella profiad ymwelwyr hefyd wedi dechrau yn y Rhyl; nid yn unig i amddiffyn y dref rhag llifogydd ond hefyd i uwchraddio ac ehangu'r promenâd ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Bydd rhai rhannau penodol o’r promenâd ar gau, fodd bynnag bydd mannau mynediad eraill i’r traeth ar gael a bydd arwyddion yn dangos hyn yn glir. Bydd pob busnes ac atyniad i ymwelwyr ar agor fel arfer hefyd. Bydd beicwyr yn gallu dilyn llwybr ag arwyddion clir. Mae'r gwaith diweddaraf yn rhan o fuddsoddiad o £65 miliwn yn y dref yn cynnwys harbwr newydd, Parc Dŵr SC2, Theatr y Pafiliwn sydd newydd ei hadnewyddu a Bwyty 1891 yn ogystal â chwmnïau cadwyn cenedlaethol yn adeiladu gwestai newydd.

Os ydych chi’n chwilio am syniadau ac ysbrydoliaeth o ran lleoedd i ymweld â nhw’r haf hwn, edrychwch ar lyfryn newydd Darganfod Sir Ddinbych, taflenni llwybrau tref wedi’u diweddaru neu galwch heibio i Ganolfannau Croeso y Rhyl neu Langollen. Gellir cael rhagor o wybodaeth a dod o hyd i’r mapiau newydd i ymwelwyr ar wefan Gogledd Ddwyrain Cymru.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...