Cynnig gofal plant i ehangu yn Sir Ddinbych
Mae cynnig gofal plant Dechrau'n Deg ar fin ehangu ymhellach yn Sir Ddinbych, gyda mwy o ardaloedd i'w cynnwys yn fuan yn Nyserth, Rhuddlan a Dinbych. Bydd y cynnig ar gael tuag ail hanner y flwyddyn hon.
Er mwyn cyflwyno’r cynnig yn llawn i’r ardaloedd newydd hyn a helpu cyfranogwyr i gofrestru, cynhelir cyfres o sesiynau dathlu rhagarweiniol dros gyfnod hanner tymor mis Mai. Bydd gwahoddiadau i'r sesiynau hyn yn cael eu hanfon drwy'r post i gartrefi cymwys yn yr ardaloedd newydd.
Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys gwybodaeth werthfawr i rieni yn ogystal â gweithgareddau hwyliog i blant gan gynnwys chwarae blêr, chwarae meddal, paentio wynebau a gwesteion arbennig.
Mae’r cynnig eisoes wedi’i ehangu i fwy o ardaloedd ym Mhrestatyn, Gallt Melyd a’r Rhyl dros y misoedd diwethaf, gan alluogi mwy o deuluoedd sydd â phlant 2-3 oed i gael mynediad at y 12 ½ awr o ofal plant a ariennir.
Gall plant sy’n byw mewn ardaloedd cod post cymwys Dechrau’n Deg gael mynediad i ddarpariaeth gofal plant wedi’i ariannu o ddechrau'r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn ddwy oed, hyd at ddiwedd y tymor y byddant yn dathlu eu trydydd pen-blwydd.
Dywedodd Rhiain Morrlle, Pennaeth Gwasanaethau Plant:
“Mae’r cynnig Gofal Plant Dechrau’n Deg wedi’i ehangu i fwy o ardaloedd ym Mhrestatyn, Gallt Melyd a’r Rhyl dros y misoedd diwethaf, sy’n golygu bod llawer mwy o deuluoedd sydd â phlant 2-3 oed bellach yn cael mynediad at y 12 ½ awr o ofal plant a ariennir.
Dros wyliau’r Pasg yn ddiweddar cynhaliwyd nifer o sesiynau ar gyfer teuluoedd lleol a oedd yn cynnwys Cwningen y Pasg, Alys yng Ngwlad Hud, chwarae meddal, chwarae blêr a phaentio wynebau. Roeddent hefyd yn darparu gwybodaeth gofrestru i rieni.
Bydd y cynnig yn ehangu’n fuan i ardaloedd Dyserth, Rhuddlan a Dinbych, a bydd sesiynau rhagarweiniol i deuluoedd cymwys yn cael eu cynnal dros hanner tymor mis Mai, gyda’r gwahoddiadau’n cael eu hanfon yn fuan.”
Er mwyn darganfod mwy ac i wirio eich cod post, ewch i'n gwefan.