llais y sir

Llais y Sir: Mai 2024

Pobl Ifanc Dinbych yn cynnal digwyddiad ymgynghori ar lwybrau beicio mwy diogel

Mae grŵp o bobl ifanc o Sir Ddinbych wedi cynnal digwyddiad i gael barn y cyhoedd am lwybrau beicio diogel er mwyn iddyn nhw allu teithio o gwmpas y dref yn saff a chadw’n actif.

Daeth y syniad ar ôl i Osian Gregson, sy’n 13 oed ac yn mynd i Glwb Ieuenctid Dinbych, benderfynu gwneud rhywbeth ar ôl iddo ddechrau teimlo’n rhwystredig nad oedd unrhyw le addas yn y dref iddo ef a phobl ifanc eraill yr ardal allu mynd allan i chwarae’n ddiogel ar eu beics. Rhannodd ei bryderon gyda Gweithiwr Ieuenctid a ddywedodd wrtho beth y byddai angen iddo’i wneud i’w lais gael ei glywed.

Aeth Osian ymlaen i ysgrifennu at yr AS lleol i rannu ei farn am yr angen am lwybrau ac ardaloedd mwy diogel i bobl reidio eu beics Ninbych cyn ymuno â phobl eraill o’r Clwb Ieuenctid i lansio’r ymgyrch ‘Twmpathau a Neidiau’.

Nod eu hymgyrch yw casglu barn a chael cefnogaeth ar gyfer llwybrau beicio ac ardaloedd lle gall pobl ifanc fynd i reidio eu beics yn ddiogel.

Lansiodd y grŵp yr ymgyrch ar 26 Mawrth 2024 mewn digwyddiad ymgynghori yng Nghae Hywel yn Ninbych gyda chefnogaeth eu Gweithiwr Ieuenctid o Wasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych.

Bwriad y digwyddiad oedd rhoi cyfle i’r gymuned leol rannu eu barn ar yr angen am fwy o lwybrau  ac ardaloedd i reidio’n ddiogel yn Ninbych, er enghraifft traciau pwmpio

Fe wnaeth y grŵp hyd yn oed osod trac pwmpio symudol yn y digwyddiad er mwyn dangos rhai o’u sgiliau beicio ac arddangos manteision trac o’r fath yn Ninbych.

Darparodd Hamdden Sir Ddinbych a Thai Sir Ddinbych weithgareddau eraill fel ‘zorbs’ a gweithgareddau peintio, a threfnodd Hwb Dinbych a Phrosiect Ieuenctid Dinbych ginio pecyn ar gyfer y rhai oedd yn bresennol. Roedd Beics Drosi hefyd yn y digwyddiad gyda’u gwasanaeth Doctor Beics i wirio diogelwch beiciau a chynnig cyngor.

Y digwyddiad ymgynghori hwn oedd cam cyntaf prosiect ‘Twmpathau a Neidiau'r bobl ifanc gyda’r grŵp eisoes yn cynllunio gweithgareddau yn y dyfodol gyda chefnogaeth eu Clwb Ieuenctid i fynd â’r ymgyrch ymhellach.

Dywed Osian: “Daeth y syniad ar gyfer yr ymgyrch yn rhannol o’r ffaith mod i’n caru bod y tu allan, mi fasa’n well gen i fod allan nag ar y PlayStation! Ond hefyd dydi pawb ddim yn gallu mynd o un lle i’r llall yn hawdd. Mae na rai pobl ifanc efo rhieni sydd ddim yn gyrru felly mae nhw’n dibynnu ar eu beic i fynd o un lle i’r llall a dwi isio i ni i gyd deimlo’n ddiogel wrth reidio o un lle i’r llall yn Ninbych.

“Mae’r ymgyrch am fwy na dim ond llwybrau beicio mwy diogel, ond does na wir unman lle gallwn fynd allan ar ein beics a bod yn saff yn Ninbych. Dyna pam y basa rhywbeth fel trac pwmpio yn yr ardal mor wych, achos byddai’n lle i ni fynd i gymdeithasu a chadw’n actif yn lle eistedd yn ein cartrefi.”

Dywedodd Liz Grieve, Pennaeth Tai a Gwasanaethau Cymunedol Sir Ddinbych: ”Mae hi mor galonogol gweld grŵp mor frwdfrydig o bobl ifanc  yn rhoi cymaint o ymdrech i mewn i rywbeth fydd o fantais i’w cymuned leol ac yn annog pobl ifanc eraill i fynd allan a chadw’n actif.

“Hoffwn ddiolch i Wasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych am gefnogi’r bobl ifanc ar eu siwrnai i wireddu eu nodau ac edrychaf ymlaen at weld cynnydd yr ymgyrch ‘Twmpathau a Neidiau’. Rydw i’n dymuno’r gorau i’r grŵp gydag unrhyw weithgareddau neu ddigwyddiadau maen nhw’n eu trefnu i yrru’r ymgyrch yn ei blaen.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...