Mainc newydd yn cael ei gosod mewn safle golygfa boblogaidd Dyfrbont Pontcysyllte
Mae pwynt golygfa poblogaidd ar gyfer gweld Dyfrbont Pontcysyllte wedi cael bywyd newydd ym Masn Trefor.
Mae’r llystyfiant yn y blaendir wedi’i gynnal ar uchder llai fel ei bod yn bosibl gweld yr olygfa odidog o’r dyfrbont a mainc wledig wedi’i gosod yno.
Mae’r fainc wedi’i gwneud o foncyff coeden lwyfen fu’n rhaid ei thorri am resymau diogelwch ym Mhlas Newydd yn Llangollen 3 blynedd yn ôl.
Diolch am gyllid drwy ein Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, drwy’r Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy, roedd y gwirfoddolwyr wnaeth gyfrannu wedi dysgu’r sgiliau oedd eu hangen a gallant nawr eistedd gyda balchder a mwynhau’r golygfeydd.
Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Ddatblygiad Lleol a Chynllunio: “Mae llawer o ymwelwyr a phobl leol yn stopio ac yn edrych ar yr olygfa odidog o’r safle hwn a gallan nhw nawr eistedd a threulio amser yn mwynhau’r tirlun darluniadwy. Hoffem ddiolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am wneud hyn yn bosibl.”