llais y sir

Llais y Sir: Medi 2022

Gwaith atgyweirio i waliau’r porthdy yng Nghastell Dinas Brân

Bydd gwaith atgyweirio hanfodol yn cael ei gwblhau ar waliau canoloesol strwythur y porthdy yng Nghastell Dinas Brân dros yr wythnosau nesaf. Bydd sgaffaldau'n cael eu codi cyn i’r gwaith atgyweirio gael ei gwblhau gan gwmni arbenigol yn defnyddio technegau morter calch.

Tŵr y porthdy yw’r unig ardal gaeedig â tho yn y castell, a bydd y gwaith atgyweirio’n galluogi’r cyhoedd i gael mynediad at y tŵr pan gaiff ei agor ar gyfer digwyddiadau arbennig. Bydd hyn yn gwella profiad a dealltwriaeth ymwelwyr o’r porthdy sydd wedi bod ar gau i ymwelwyr.

Caiff y gwaith ei ariannu gan Cadw a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol drwy’r prosiect Ein Tirlun Darluniadwy, cynllun partneriaeth tirlun sy’n gyfrifol am adfer nifer o nodweddion o fewn Dyffryn Dyfrdwy.

Mae Castell Dinas Brân, y fryngaer a’r castell canoloesol, yn safle eiconig yn Nyffryn Dyfrdwy, ac mae’r castell yn dyddio’n ôl i’r 13eg ganrif ac yn denu oddeutu 50,000 o ymwelwyr bob blwyddyn i ymweld â’r safle ar hyd dau brif lwybr. Mae’r mwyafrif o’r tir o amgylch y castell yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a gaiff ei ddiogelu yn sgil y ddaeareg a’r glaswelltir cyfoethog ei rywogaethau.

Dywedodd y Cynghorydd Win Mullen James, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Ddatblygiad Lleol a Chynllunio: “Mae cyfle cyffrous iawn dros yr haf eleni i gynnal gweithgareddau yn y castell ochr yn ochr â’r gwaith atgyweirio i ddangos pam bod Castell Dinas Brân wedi ysbrydoli gymaint o ymwelwyr dros y canrifoedd i archwilio a gwerthfawrogi’r lleoliad arbennig o fewn tirwedd hyfryd Dyffryn Dyfrdwy. Mae’n bleser gennym fedru cwblhau’r gwaith atgyweirio hwn a fydd yn helpu i ddiogelu strwythur y castell a’n galluogi i agor tŵr y porthdy i’r cyhoedd ar gyfer digwyddiadau arbennig yn y dyfodol. Hoffem ddiolch i’n cyllidwyr Cadw a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am wneud hyn yn bosibl.”

Meddai Ashley Batten, Archwilydd Henebion Hynafol Cadw; “Mae’r porthdy dau dŵr yng Nghastell Dinas Brân yn unigryw iawn. Credir ei fod yn dyddio’n ôl i’r 1260au ac yn un o ddarnau gwaith Madog ap Llywelyn o Bowys. Mae’r dyluniad yn ymddangos yn fwy pensaernïol nag amddiffynnol, ac yn cynnwys dau dŵr cul. Mae strwythur bwaog yn parhau i fod yn amlwg yn y tŵr deheuol, ond mae llawer o’r gwaith maen allanol wedi’i golli dros y canrifoedd. Mae hyn yn golygu bod craidd carreg bregus y strwythur wedi bod yn agored i’r elfennau a rhai darnau pensaernïol yn agored i erydiad. Bydd y gwaith cadwraeth arbenigol hwn yn anelu at ddiogelu’r gwaith maen gwerthfawr a chynnal y gweddillion er mwyn i genedlaethau’r dyfodol eu deall a’u mwynhau.”

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...