llais y sir

Llais y Sir: Medi 2022

Ymweld â’r Môr-wenoliaid

“Profiad arbennig” “Braf bod yma” “Bendigedig”

Os ydych chi erioed wedi bod yn ddigon ffodus i weld un o’r adar môr dymunol, ond swnllyd, yma, byddwch yn ymwybodol o’r mwynhad sydd i’w gael yn eu cwmni. Gyda streipen wen nodweddiadol ar draws eu talcen a phig melyn llachar, maent yn bleser i’w gwylio. Gan ddychwelyd i’r DU ar ddiwedd mis Ebrill, ar ôl teithio o bellteroedd maith - rhai mor bell â Guinea Bissau, bydd llawer yn nythu ar hyd y draethlin o gerrig mân yn yr unig nythfa o fôr-wenoliaid bach Cymru yng Ngronant.

[Môr-wenoliaid Bach. Credyd Llun: Ian Sheppard]

Mae’r traeth graeanog hwn yng Ngronant yn hanfodol i’r aderyn hwn sy'n nythu ar y ddaear, gan ei fod yn angenrheidiol i guddio nyth yn llwyddiannus. Mae digonedd o lymrïaid i’w cael yma hefyd. Mae’r pysgod arian yma i’w gweld yn aml wedi’u dal ym mhig môr-wennol fach. Nid yn unig yw’r llymrïaid hyn yn llawn maeth, maent hefyd yn allweddol i’r arddangosiadau maent yn eu gwneud wrth ganlyn.

Yn fuan wedi i’r wardeiniaid ddechrau ar y safle, gwelwyd y môr-wenoliaid bach cyntaf yn cyrraedd Gronant. Er mawr lawenydd, gwelwyd cip ar ddau un diwrnod, tri y diwrnod canlynol: dŵr yn diferu dros y gored. Erbyn mis Mai, roeddent wedi cyrraedd yn eu cannoedd, roedd y llifddorau wir wedi agor! Roedd yn ddechrau prysur i’r tymor gyda ffens drydanol dros 3km o hyd yn cael ei chodi o amgylch y safle, i greu hafan ddiogel rhag llwynogod a chŵn. Diolch i gymorth gwirfoddolwyr Grŵp Môr-wenoliaid Bach Gogledd Cymri a gwaith caled gan staff Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych, nid oedd rhaid disgwyl llawer cyn i ni ddechrau canfod nythod yn cynnwys trysorau gwerthfawr, wedi’u cuddio ymysg y cerrig mân, yn frith o liw; glas, gwyrdd a gwyn.

[Cywion y môr-wenoliaid - tua un diwrnod oed]

Nodwyd yn y cyfrif diweddaraf, a gynhaliwyd ym mis Mehefin, bod gennym dros 200 o nythod - y nifer fwyaf ar record. Mae hyn 22.4% yn uwch na’r uchafswm blaenorol o nythod gyda wyau / cywion a nodwyd yng Ngronant yn 2018. Er mawr lawenydd, gwelwyd y cywion bach cyntaf yr un diwrnod. Mae hwn yn sicr yn arwydd calonogol ond nid yw’n addewid o lwyddiant. Mae sawl llanw uchel o’n blaenau eto, a rhaid i’r wardeiniaid fynd i’r afael â’r gwaith diflino o atal ysglyfaethwyr. Ond buan iawn y daeth y cyfnod bendigedig o barablu am gywion bach i ben pan welwyd cudyll coch yn hedfan â chyw bach yn ei grafangau. I’n cysuro, fe wnaethom atgoffa ein hunain bod ganddyn nhw gywion bach i’w bwydo hefyd. Problem fwy sydd wedi codi’n ddiweddar yw aflonyddwch dynol, gan achosi i lawer o’r môr-wenoliaid bach adael eu nythod, ac yn fwy pryderus fyth, difrod gan gŵn nad yw’n cael ei gadw dan reolaeth agos. Gyda gwyliau’r haf yn nesáu, rydym i gyd yn paratoi ar gyfer yr wythnosau i ddod.

I gydbwyso colledion y nythod i lanw uchel, mae’r wardeiniaid wedi bod yn symud nythod dan fygythiad i fyny’r traeth yn gynyddrannol. Mae nodweddion allweddol y nythod yn cael eu hail-greu mor gywir â phosib, gyda cherrig a chregyn addurnol yn cael eu trosglwyddo’n ofalus. Cedwir llygad craff ar y rhieni i wneud yn siŵr eu bod yn dychwelyd i’w nythod, gan wneud yn siŵr eu bod wedi adleoli’n llwyddiannus. Fel llawer o benderfyniadau a wnaed wrth weithio gyda bywyd gwyllt, mae’n sensitif o ran amser, ac mae llawer o ffactorau i’w hystyried cyn symud nyth. Mae’n rhaid i’r amodau fod yn gywir: dim, neu ychydig iawn, o wynt, tywydd cynnes, llanw isel / canolig, a dim amhariad gan ysglyfaethwyr neu bobl. I rai clystyrau, efallai na fydd hyn yn ddigon i’w harbed, ond gan eu bod yn rhywogaeth hynod wydn, bydd llawer o’r môr-wenoliaid bach yn ceisio nythu eto, gan ddysgu o gamgymeriadau blaenorol a dewis nythu ymhellach i fyny’r traeth yr ail waith. Mae gobaith o hyd.

Daeth cyllid eleni o Gynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru, wedi’i weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae’r cyllid hwn wedi rhoi cyfle hanfodol i’r prosiect ymgysylltu â grwpiau ysgol lleol gyda’r gobaith o ysbrydoli a chysylltu. Mae’n hanfodol nad ydym yn bychanu effaith y pandemig ar bobl ifanc, mae llawer ohonynt wedi wynebu heriau o ran cael mynediad i’r awyr agored, ac yn ôl Ymddiriedolaeth Nuffield, gwelwyd cynnydd o 81% mewn atgyfeiriadau i wasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc o’i gymharu â’r un cyfnod yn 20191. Esboniodd llawer o athrawon mai hwn oedd eu trip cyntaf fel grŵp mewn dros ddwy flynedd, a chlywais yn aml mor dda oedd gweld eu myfyrwyr yn “bod yn blant”.

Yn aml, wrth gerdded i lawr at y traeth ar ôl cwrdd â grwp wrth y bws, byddai’r plant yn llawn cyffro, yn byrlymu â chwestiynau a ffeithiau “Oeddech chi’n gwybod bod môr-wenoliaid yn gallu teithio dros 6000 o filltiroedd mewn blwyddyn?!”, “Oeddech chi’n gwybod bod môr-wenoliaid bach yn pwyso’r un faint â phêl golff?!”, “Oeddech chi’n gwybod bod llwynogod yn gallu neidio dros 6 troedfedd?! Mae hynny’n dalach na chi!” Roeddent wedi gwneud eu gwaith ymchwil! Un gweithgaredd poblogaidd oedd adeiladu nythod, roedd y creadigrwydd a’r dychymyg a ddefnyddiwyd yn anhygoel, roedd yna ddrysfeydd, wedi’u hadeiladu i gadw’r gwencïod allan, cromenni i atal llwynogod rhag dwyn wyau a safleoedd clwydo ffug i ddrysu’r brain. Roedden ni’n chwilotwyr yn archwilio’r traeth, yn dod o hyd i gregyn moch a chrancod glas, helwyr ar helfa drysor yn chwarae cuddio’r ŵy, ac yn benseiri yn dylunio ein nythod ein hun. Ond, yn bwysicaf oll, cawsant gyfle i fod yn blant, yn dysgu a chwarae yn y tywod.

Yn ystod y tymor hwn bydd cannoedd o bobl ifanc yn ymweld â’r traeth, gyda grwpiau o 7 ysgol leol a disgyblion rhwng 6 a 19 oed. Yn anffodus, nid oedd yn bosib cynnal rhai ymweliadau eleni, gyda phwysau ar ysgolion i ganfod cyllid ar gyfer cludiant neu i neilltuo amser oddi wrth baratoadau arholiadau. I gydbwyso hyn, penderfynais fynd â’r traeth atyn nhw, gan ymweld â 3 ysgol i siarad am y prosiect. Mae hygyrchedd yn hanfodol, felly yn lle ymweld â’r traeth, penderfynais fyd â diorama o dwyn tywod i chwarae ag ef ar gyfer y plant 8 oed, a chyflwyniad gwyddonol ar gyfer y myfyrwyr bioleg Safon Uwch. Mae’n hanfodol nad ydym yn eithrio’r rhai hynny nad ydynt yn gallu ymweld, ac ni fyddai hyn yn bosibl heb gyllid gan y Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Wrth siarad gyda llawer o’r plant, roeddwn yn aml yn eu clywed yn dweud eu bod yn teimlo eu bod wedi ymlacio, yn hapus ac wedi cyffroi pan yn ymweld â’r traeth. Roeddwn yn gofyn a oeddent wedi bod o’r blaen, ac er mawr syndod i mi, ychydig iawn ohonynt oedd wedi bod o’r blaen. Roedd yn bwysig pwysleisio pa mor arbennig yw eu traeth, trafod arwyddocâd nythfa’r môr-wenoliaid bach a’r ffyrdd gwahanol i gymryd rhan neu gefnogi’r môr-wenoliaid os oeddent yn dewis gwneud hynny. Roeddwn yn cael fy sicrhau bron bob dydd pan oeddwn yn eu clywed yn erfyn ar eu hathrawon i ddod yn ôl eto. Ysgrifennodd un grŵp ataf i ddweud “ei fod wedi agor eu llygaid i’r prosiect cadwraeth lleol pwysig hwn”. Mae sgyrsiau ystyrlon sy’n meithrin y syniad o stiwardiaeth a’r ymdeimlad o gymuned a phositifrwydd mewn perthynas â’r prosiect hwn, mor werthfawr yn yr oed hanfodol hwn, ar yr adeg hanfodol hon. Mae sawl ysgol eisoes wedi gofyn i gael dod yn ddiweddarach yn y tymor, gan ddangos grym y lle arbennig hwn a sut y gall gysylltu pobl â natur a’u hunain.

  

[Plant o Ysgol y Llys]

Roedd yr uchafbwyntiau eraill a nodwyd yn gynharach yn y tymor yn cynnwys taith gerdded dywysedig fel rhan o Ŵyl Gerdded Prestatyn, yn ogystal â gweld nythfa’r môr-wenoliaid yn brif ymweliad safle ar gyfer cynhadledd ceidwaid Gogledd Cymru: NEWCOF. 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymweld â’r safle neu wirfoddoli yno, neu os ydych eisiau gwybod mwy, dilynwch ni @GronantTerns neu anfonwch neges at littleternengagement2022@outlook.com i ddweud helo.

1) Growing problems, in depth: the impact of covid-19 on health care for children and young people in England. www.nuffieldtrust.org.uk/resource/growing-problems-in-detail-covid-19-s-impact-on-health-care-for-children-and-young-people-in-england.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...