llais y sir

Llais y Sir: Medi 2022

Ap 'Mind of my own'

Mae Mind of My Own yn blatfform ar-lein sy’n galluogi plant a phobl ifanc sy’n gweithio gyda Gwasanaethau Addysg a Phlant Sir Ddinbych i ymgysylltu gyda'u gweithiwr a rhannu eu safbwyntiau ynglŷn â’r gofal maent yn ei dderbyn, eu pryderon, ofnau a llwyddiannau.

Fe all plant a phobl ifanc ddefnyddio’r ap ar eu pen eu hunain ar unrhyw adeg, neu gallent ddefnyddio Mind of My Own ochr yn ochr â'u gweithiwr dynodedig.

Hyd yma mae gan 215 o bobl ifanc gyfrifon, mae gan 154 o weithwyr gyfrifon ac mae 509 o ddatganiadau wedi eu derbyn gan blant a phobl ifanc.

Roedd Mind of My Own wedi cynnal eu Seremoni Wobrwyo Flynyddol yn gynharach yn y flwyddyn i ddathlu cyflawniadau gwych aelodau o’r gymuned Mind of My Own. Mi roedd Jane Hodgson, Uwch Weithiwr Cefnogi Teuluoedd (Tîm o Amgylch y Teulu) yn enillydd cwbl haeddiannol Gwobr Mind of My Own High Flyer, gan gydnabod ei chyflawniad yn defnyddio’r platfform o fewn Gwasanaethau Addysg a Phlant Sir Ddinbych fel rhan o’i gwaith gyda phlant a phobl ifanc.  

Jane Hodgson

Mae Jane wedi derbyn dros 80 datganiad gan blant a phobl ifanc yn gweithio gyda’r gwasanaeth, gan sicrhau bod eu barn am eu bywyd a’u gofal yn cael ei chlywed a’u deilliannau a lles yn gwella. 

Da iawn chdi Jane!

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...